Rhan 4Gorfodi a Throseddau

Troseddau14.

(1)

Mae oedolyn sy’n torri gofyniad yn rheoliad —

(a)

4(1) neu (4),

(b)

5(2),

(c)

7(2), (3) neu (5),

(d)

8(3) neu (4),

(e)

10(6), F1...

(f)

11 F2neu

F3(g)

12B(1),

yn cyflawni trosedd.

(2)

Mae’n drosedd i oedolyn ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 4, 5, 7(5), 8(4) neu 10(6)—

(a)

pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)

pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.

(3)

Mae oedolyn sy’n methu cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan gwnstabl o dan reoliad 13 yn cyflawni trosedd.

(4)

Mae oedolyn sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y F4Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(5)

Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni trosedd o dan baragraff (1) neu (3) i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad neu fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.

(6)

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(7)

Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198411 yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—

(a)

cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)

cynnal trefn gyhoeddus.