TroseddauLL+C
14.—(1) Mae oedolyn sy’n torri gofyniad yn rheoliad —
(a)4(1) neu (4),
(b)5(2),
(c)7(2), (3) neu (5),
(d)8(3) neu (4),
(e)10(6), F1...
(f)11 [F2neu]
[F3(g)12B(1),]
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’n drosedd i oedolyn ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 4, 5, 7(5), 8(4) neu 10(6)—
(a)pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu
(b)pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Mae oedolyn sy’n methu cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan gwnstabl o dan reoliad 13 yn cyflawni trosedd.
(4) Mae oedolyn sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y [F4Rheoliadau hyn] yn cyflawni trosedd.
(5) Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni trosedd o dan baragraff (1) neu (3) i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad neu fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
(6) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(7) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(1) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 14(1)(e) wedi ei hepgor (14.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288), rhlau. 1(2), 2(4)(a)
F2Gair yn rhl. 14(1)(f) wedi ei fewnosod (14.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288), rhlau. 1(2), 2(4)(b)
F3Rhl. 14(1)(g) wedi ei fewnosod (14.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288), rhlau. 1(2), 2(4)(c)
F4Geiriau yn rhl. 14(4) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(e) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
1984 p. 60. Amnewidiwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).