Rhan 4Gorfodi a Throseddau
Troseddau14.
(1)
Mae oedolyn sy’n torri gofyniad yn rheoliad —
(a)
4(1) neu (4),
(b)
5(2),
(c)
7(2), (3) neu (5), F1neu
(d)
8(3) neu (4),
(e)
10(6), F2...
(f)
11 F3...
F4(g)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
yn cyflawni trosedd.
(2)
Mae’n drosedd i oedolyn ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 4, 5, 7(5), 8(4) neu 10(6)—
(a)
pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu
(b)
pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.
(3)
Mae oedolyn sy’n methu cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan gwnstabl o dan reoliad 13 yn cyflawni trosedd.
(4)
Mae oedolyn sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y F5Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(5)
Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni trosedd o dan baragraff (1) neu (3) i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad neu fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
(6)
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(7)
(a)
cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)
cynnal trefn gyhoeddus.