Rhan 4Gorfodi a Throseddau
Hysbysiadau cosb benodedig16.
(1)
Caiff swyddog mewnfudo ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd—
(a)
o dan reoliad 14(1) neu (2)—
(i)
mewn perthynas â gofyniad yn rheoliad 4(1) neu (4), 5(2), neu 7(5), neu
(ii)
mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 11 sy’n ymwneud â’r gofyniad yn rheoliad 7(5), neu
(b)
o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny.
(2)
Caiff cwnstabl ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Reoliadau hyn.
(3)
Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)
Gweinidogion Cymru, neu
(b)
person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(4)
Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)
ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)
ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(5)
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)
disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,
(b)
datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd,
(c)
pennu swm y gosb benodedig,
(d)
datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac
(e)
pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(6)
Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd—
(a)
o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 7(2), neu (3), 8(3) neu 11,
(b)
o dan reoliad 14(3), neu
(c)
o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â rheoliad 7(2) neu (3), 8(3) neu 11,
rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £1000.
(7)
Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd (“trosedd gwybodaeth neu hysbysu”) —
(a)
o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 4(1) neu (4), 5(2), 7(5), 8(4) neu 10(6), neu
(b)
o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny,
rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9)).
(8)
Caiff hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y dyroddir yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.
(9)
Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno—
(a)
nid yw paragraff (8) yn gymwys, a
(b)
y swm a bennir fel y gosb benodedig fydd—
(i)
yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;
(ii)
yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;
(iii)
yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;
(iv)
yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;
(v)
yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.
(10)
Pa bynnag ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(11)
Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (10), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(12)
Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)
sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—
(i)
Gweinidogion Cymru, neu
(ii)
person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3)(b), a
(b)
sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.