Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
17.—(1) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 18, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—
(a)gwybodaeth am deithiwr o Gymru;
(b)gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o Gymru” yw—
(i)gwybodaeth am deithiwr a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben rheoliad 4 neu 5;
(ii)gwybodaeth a ddarparwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn hysbysiad a wnaed o dan reoliad 7(5)(b), 8(4) neu 10(6);
(b)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig” yw gwybodaeth a roddir i berson o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i ddarpariaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddeiliad gwybodaeth yn gyfeiriad at—
(a)yr Ysgrifennydd Gwladol;
(b)person y datgelwyd yr wybodaeth iddo o dan baragraff (4) neu (5).
(4) Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o Gymru ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (y “derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan —
(i)y Rheoliadau hyn, neu
(ii)Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb â’r Rheoliadau yma;
(b)at ddiben—
(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,
(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws, neu
(iii)rhoi effaith i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;
(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â’r diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â‘r diben hwnnw
(5) Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig ei ddatgelu i berson arall (“y derbynnydd”) mewn amgylchiadau lle ei bod hi’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael y wybodaeth—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan y Rheoliadau yma;
(b)at ddiben—
(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,
(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws yng Nghymru, neu
(iii)rhoi effaith yng Nghymru i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;
(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b) neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.
(6) Ni all deiliad gwybodaeth berthnasol ddefnyddio’r wybodaeth ac eithrio—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y deiliad o dan y Rheoliadau hyn;
(b)yn achos gwybodaeth am deithiwr o Gymru, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4)(b);
(c)yn achos gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b);
(d)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.
(7) Er gwaethaf paragraffau (4), (5) a (6), nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu’r amgylchiadau lle y gellir fel arall ddatgelu’r wybodaeth yn gyfreithiol, neu lle y gellir defnyddio’r wybodaeth o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.
(8) Nid yw datgeliad a awdurdodir gan y rheoliad hwn yn torri—
(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu
(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (ym mha fodd bynnag y’i gorfodir).
(9) Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi datgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.
(10) Ym [F1mharagraff (9)] , mae i “ddeddfwriaeth diogelu data” [F2a “data personol”] yr ystyr a roddir i “data protection legislation” [F3 rhodder “a] ” yr ystyr a roddir i “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 17(10) wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 9(3)
F2Geiriau yn rhl. 17(10) wedi eu mewnosod (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(g)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F3Gair yn rhl. 17(10) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(g)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn