xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
18.—(1) Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.
(2) Pan ddefnyddir yr wybodaeth mewn achos ac eithrio ar gyfer trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(1) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—
(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a
(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu
(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.
1911 p. 6. Diwygiwyd adran 5 gan adran 1(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1948 (p. 58).