RHAN 2Gofyniad i ddarparu gwybodaeth
Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr4.
(1)
Rhaid i P gyflwyno’r wybodaeth ganlynol i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig F1wrth gyrraedd neu cyn cyrraedd Cymru, gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn—
(a)
gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P, a
(b)
pan fo P yn cyrraedd Cymru yng nghwmni plentyn y mae gan P gyfrifoldeb amdano, gwybodaeth am deithiwr ar gyfer y plentyn,
(2)
Pan fo P yn cyrraedd Cymru drwy borthladd--
(a)
rhaid i P gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gadael y porthladd, a
(b)
rhaid i swyddog mewnfudo yn y porthladd ddarparu P unrhyw gynhorthwy y mae’r swyddog yn ei ystyried yn angenrheidiol i alluogi P i gydymffurfio â pharagraff (1).
(3)
Nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (1) os yw’r wybodaeth am deithiwr wedi ei darparu’n electronig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw, cyn i P gyrraedd Cymru.
(4)
Ond pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i P ddarparu tystiolaeth i swyddog mewnfudo bod y wybodaeth am deithiwr wedi ei ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog.
(5)
Pan fo P yn blentyn y mae gwybodaeth am deithiwr mewn cysylltiad ag ef wedi ei darparu gan berson sydd â chyfrifoldeb am P, yn unol â pharagraff (1)(b), nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P.