Gofyniad i ynysu: cyrraedd o fan y tu allan i’r Deyrnas UnedigLL+C
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F1wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] , neu
(b)sydd —
(i)yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F2wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig] , a
F3(ii)[F4sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Rhaid i P—
(a)teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu
(b)teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.
(3) Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—
(a)onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu
(b)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).
(4) At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—
(a)y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni F5... fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);
(b)pan fo P yn berson a ddisgrifir—
(i)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu
(ii)paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,
mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;
(c)pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);
(d)pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.
(5) Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—
(a)wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru [F6sy’n addas i breswylio ynddi] tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a
(b)hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(6) Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.
(7) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 7(1)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F2Geiriau yn rhl. 7(1)(b)(i) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F3Rhl. 7(1)(b)(ii) comma wedi ei hepgor (15.6.2020 am 5.38 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F4Geiriau yn rhl. 7(1)(b)(ii) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(c) (ynghyd â rhl. 7)
F5Gair yn rhl. 7(4)(a) wedi ei hepgor (15.6.2020 am 5.38 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
F6Geiriau yn rhl. 7(5)(a) wedi eu mewnosod (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(iii) (ynghyd â rhl. 11)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 7(1)(b) addaswyd (11.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn