RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o fan y tu allan i’r Deyrnas UnedigI17

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

a

sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o F1wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt , neu

C1b

sydd —

i

yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o F2wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig , a

F4ii

F5sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

2

Rhaid i P—

a

teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu

b

teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.

3

Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

a

onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu

b

onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

4

At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—

a

y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni F3... fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);

b

pan fo P yn berson a ddisgrifir—

i

ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu

ii

paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,

mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;

c

pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);

d

pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.

5

Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—

a

wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru F6sy’n addas i breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

b

hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.

6

Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.

7

Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).