RHAN 3Gofyniad i ynysu etc.

Gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas Unedig8.

(1)

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)

sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a

(b)

sydd o fewn y cyfnod o 14 o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi cyrraedd yr ardal deithio gyffredin o fan y tu allan i‘r ardal honno;

(2)

Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)

person—

(i)

sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad F17(3); a

(ii)

person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);

(b)

person—

(i)

y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,

(ii)

y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a

(iii)

sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.

(3)

O ran P—

(a)

rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a

(b)

ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—

(i)

onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) F2(gadael y fangre dros dro) i wneud hynny, neu

(ii)

onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).

(4)

Rhaid i P hefyd—

(a)

cyn cyrraedd Cymru, neu

(b)

cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,

hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.