xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a
(b)sydd o fewn y cyfnod o [F110] o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi [F2bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] ;
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—
(a)person—
(i)sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad [F37(3); a]
(ii)person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);
(b)person—
(i)y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,
(ii)y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a
(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.
[F4(c)person—
(i)nad yw’n ofynnol iddo ynysu mwyach o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Lloegr) 2020 yn rhinwedd rheoliad 4(13A) o’r Rheoliadau hynny,
(ii)sydd yng Nghymru am un neu ragor o’r rhesymau a restrir yn rheoliad 10(4)(b) i (k) o’r Rheoliadau hyn, a
(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.]
(3) O ran P—
(a)rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a
(b)ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—
(i)onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) [F5(gadael y fangre dros dro)] i wneud hynny, neu
(ii)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).
(4) Rhaid i P hefyd—
(a)cyn cyrraedd Cymru, neu
(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,
hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 8(1)(b) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(iii)
F2Geiriau yn rhl. 8(1)(b) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(3) (ynghyd â rhl. 7)
F3Geiriau yn rhl. 8(2)(a)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(d)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F4Rhl. 8(2)(c) wedi ei fewnosod (19.12.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020 (O.S. 2020/1602), rhlau. 1(2), 4(2)
F5Geiriau yn rhl. 8(3)(b)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(d)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 8(1) addaswyd (11.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn