RHAN 3LL+CGofyniad i ynysu etc.

Gofynion ynysu: esemptiadauLL+C

9.[F1(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—

(a)gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;

(b)gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;

ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.]

[F2(2)]  Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—

(a)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym [F3mharagraff 1(2)] o’r Atodlen honno;

(b)ym mharagraffau 2 i 36 o Atodlen 2.