xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1LL+CGwybodaeth am Deithiwr

1.  Manylion personol—LL+C

(a)enw llawn,

(b)rhyw,

(c)dyddiad geni,

(d)rhif pasport, neu gyfeirnod [F1dogfen] deithio (fel y bo’n briodol), y dyddiad dyroddi a’r dyddiad y daw’r pasport neu’r ddogfen i ben a’r awdurdod dyroddi,

(e)rhif ffôn,

(f)cyfeiriad cartref,

(g)cyfeiriad e-bost.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

2.  Manylion y daith—LL+C

(a)os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yng Nghymru y mae’r person yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan reoliad 7(3),

(b)os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yn y Deyrnas Unedig y mae P yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan ddarpariaeth gyfatebol mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,

(c)dyddiad y bydd y person yn cyrraedd y cyfeiriad a bennir yn is-baragraff (a) neu (b), neu’r dyddiad y mae’n bwriadu cyrraedd, fel y bo’n briodol,

(d)y gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef, neu wedi teithio gydag ef, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith,

(e)cyfeirnod yr archeb deithio,

(f)rhif yr hediad, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol),,

(g)enw unrhyw grŵp teithio trefnedig y mae’r person yn teithio neu wedi teithio gydag ef,

(h)y lleoliad yn y Deyrnas Unedig y bydd y person yn ei gyrraedd, neu’r lleoliad yn y Deyrnas Unedig y mae wedi ei gyrraedd,

(i)y wlad y mae’r person yn teithio drwyddi, neu wedi ymadael ohoni,

[F2(ia)unrhyw wlad neu diriogaeth arall y bydd P ynddi, neu y mae P wedi bod ynddi, yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, neu y mae’n bwriadu cyrraedd y Deyrnas Unedig,

(ib)pan fo is-baragraff (ia) yn gymwys, y dyddiadau yr oedd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall neu y bydd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall,]

(j)y dyddiad a’r amser y bydd y person yn cyrraedd y Deyrnas Unedig neu y mae’n bwriadu ei chyrraedd, fel y bo’n briodol,

(k)a yw’r person yn teithio drwy’r Deyrnas Unedig fel rhan o siwrnai gysylltu i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac, os felly—

(i)lleoliad y man y bydd y person yn ymadael â’r Deyrnas Unedig,

(ii)y wlad sy’n gyrchfan terfynol y person,

(iii)enw’r gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef ar y daith sy’n dilyn, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith sy’n dilyn,

(iv)cyfeirnod archeb deithio’r daith sy’n dilyn,

(v)rhif yr hediad, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol) ar gyfer y daith sy’n dilyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

3.  A yw’r person sy’n darparu gwybodaeth am deithiwr yn gwneud hynny ar ran person arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

4.  Pan fo’r person yn teithio gyda phlentyn y mae ganddo gyfrifoldeb amdano—LL+C

(a)enw llawn a dyddiad geni’r plentyn hwnnw,

(b)perthynas y teithiwr â’r plentyn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

5.  Enw llawn a rhif ffôn cyswllt brys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)