2. Manylion y daith—LL+C
(a)os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yng Nghymru y mae’r person yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan reoliad 7(3),
(b)os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yn y Deyrnas Unedig y mae P yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan ddarpariaeth gyfatebol mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
(c)dyddiad y bydd y person yn cyrraedd y cyfeiriad a bennir yn is-baragraff (a) neu (b), neu’r dyddiad y mae’n bwriadu cyrraedd, fel y bo’n briodol,
(d)y gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef, neu wedi teithio gydag ef, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith,
(e)[F1rhif y sedd],
[F2(ea)rhif eu coets,]
(f)rhif yr hediad [F3neu enw’r llestr],
(g)enw unrhyw grŵp teithio trefnedig y mae’r person yn teithio neu wedi teithio gydag ef,
(h)y lleoliad yn y Deyrnas Unedig y bydd y person yn ei gyrraedd, neu’r lleoliad yn y Deyrnas Unedig y mae wedi ei gyrraedd,
(i)y wlad y mae’r person yn teithio drwyddi, neu wedi ymadael ohoni,
[F4(ia)unrhyw wlad neu diriogaeth arall y bydd P ynddi, neu y mae P wedi bod ynddi, yn ystod y cyfnod o [F510] o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, neu y mae’n bwriadu cyrraedd y Deyrnas Unedig,
(ib)pan fo is-baragraff (ia) yn gymwys, y dyddiadau yr oedd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall neu y bydd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall,]
(j)y dyddiad a’r amser y bydd y person yn cyrraedd y Deyrnas Unedig neu y mae’n bwriadu ei chyrraedd, fel y bo’n briodol,
(k)a yw’r person yn teithio drwy’r Deyrnas Unedig fel rhan o siwrnai gysylltu i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac, os felly—
(i)lleoliad y man y bydd y person yn ymadael â’r Deyrnas Unedig,
(ii)y wlad sy’n gyrchfan terfynol y person,
(iii)enw’r gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef ar y daith sy’n dilyn, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith sy’n dilyn,
(iv)[F6rhif sedd y] daith sy’n dilyn,
(v)rhif yr hediad [F7neu enw’r llestr] ar gyfer y daith sy’n dilyn.
[F8(vi)rhif y goets ar gyfer y daith sy’n dilyn.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 1 para. 2(e) wedi eu hamnewid (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 5(2)(a)
F2Atod. 1 para. 2(ea) wedi ei fewnosod (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 5(2)(b)
F3Geiriau yn Atod. 1 para. 2(f) wedi eu hamnewid (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 5(2)(c)
F4Atod. 1 para. 2(ia)(ib) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(7) (ynghyd â rhl. 7)
F5Gair yn Atod. 1 para. 2(ia) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(iv)
F6Geiriau yn Atod. 1 para. 2(k)(iv) wedi eu hamnewid (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 5(2)(d)
F7Geiriau yn Atod. 1 para. 2(k)(v) wedi eu hamnewid (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 5(2)(e)
F8Atod. 1 para. 2(k)(vi) wedi ei fewnosod (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 5(2)(f)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)