ATODLEN 1Gwybodaeth am Deithiwr

Rheoliad 2(1)

I51

Manylion personol—

a

enw llawn,

b

rhyw,

c

dyddiad geni,

d

rhif pasport, neu gyfeirnod F1dogfen deithio (fel y bo’n briodol), y dyddiad dyroddi a’r dyddiad y daw’r pasport neu’r ddogfen i ben a’r awdurdod dyroddi,

e

rhif ffôn,

f

cyfeiriad cartref,

g

cyfeiriad e-bost.

I12

Manylion y daith—

a

os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yng Nghymru y mae’r person yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan reoliad 7(3),

b

os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yn y Deyrnas Unedig y mae P yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan ddarpariaeth gyfatebol mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,

c

dyddiad y bydd y person yn cyrraedd y cyfeiriad a bennir yn is-baragraff (a) neu (b), neu’r dyddiad y mae’n bwriadu cyrraedd, fel y bo’n briodol,

d

y gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef, neu wedi teithio gydag ef, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith,

e

cyfeirnod yr archeb deithio,

f

rhif yr hediad, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol),,

g

enw unrhyw grŵp teithio trefnedig y mae’r person yn teithio neu wedi teithio gydag ef,

h

y lleoliad yn y Deyrnas Unedig y bydd y person yn ei gyrraedd, neu’r lleoliad yn y Deyrnas Unedig y mae wedi ei gyrraedd,

i

y wlad y mae’r person yn teithio drwyddi, neu wedi ymadael ohoni,

F2ia

unrhyw wlad neu diriogaeth arall y bydd P ynddi, neu y mae P wedi bod ynddi, yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, neu y mae’n bwriadu cyrraedd y Deyrnas Unedig,

ib

pan fo is-baragraff (ia) yn gymwys, y dyddiadau yr oedd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall neu y bydd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall,

j

y dyddiad a’r amser y bydd y person yn cyrraedd y Deyrnas Unedig neu y mae’n bwriadu ei chyrraedd, fel y bo’n briodol,

k

a yw’r person yn teithio drwy’r Deyrnas Unedig fel rhan o siwrnai gysylltu i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac, os felly—

i

lleoliad y man y bydd y person yn ymadael â’r Deyrnas Unedig,

ii

y wlad sy’n gyrchfan terfynol y person,

iii

enw’r gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef ar y daith sy’n dilyn, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith sy’n dilyn,

iv

cyfeirnod archeb deithio’r daith sy’n dilyn,

v

rhif yr hediad, rhif y trên, neu rif y tocyn (fel y bo’n briodol) ar gyfer y daith sy’n dilyn.

I43

A yw’r person sy’n darparu gwybodaeth am deithiwr yn gwneud hynny ar ran person arall.

I34

Pan fo’r person yn teithio gyda phlentyn y mae ganddo gyfrifoldeb amdano—

a

enw llawn a dyddiad geni’r plentyn hwnnw,

b

perthynas y teithiwr â’r plentyn hwnnw.

I25

Enw llawn a rhif ffôn cyswllt brys.