F1ATODLEN 1AProfion cyn cyrraedd Cymru

Rheoliad 6A

1.

Mae prawf yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)

os yw’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws, sy’n—

(i)

prawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)

prawf a gynhaliwyd gan ddefnyddio dyfais y mae’r gweithgynhyrchydd yn datgan bod ganddi—

(aa)

sensitifrwydd o 80% o leiaf,

(bb)

penodolrwydd o 97% o leiaf, a

(cc)

terfyn canfod o lai na 100,000 o gopïau SARS-CoV-2 y mililitr neu’n hafal i hynny,

(b)

os nad yw’n brawf a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978, neu Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, a

(c)

os cymerir sampl y prawf o berson ddim mwy na 72 o oriau cyn—

(i)

yn achos person sy’n teithio i Gymru ar wasanaeth trafnidiaeth masnachol, yr amser a amserlennwyd ar gyfer ymadawiad y gwasanaeth, neu

(ii)

mewn unrhyw achos arall, amser ymadael gwirioneddol y llestr neu’r awyren y mae’r person hwnnw yn teithio arni i Gymru.

2.

Rhaid i hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—

(a)

enw’r person y cymerwyd y sampl ohono,

(b)

dyddiad geni’r person hwnnw,

(c)

canlyniad (negyddol) y prawf,

(d)

y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,

(e)

datganiad bod y prawf yn—

(i)

prawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)

prawf a gynhaliwyd gan ddefnyddio dyfais sydd â sensitifrwydd o 80% o leiaf a phenodolrwydd o 97% o leiaf, a therfyn canfod o lai na 100,000 o gopïau SARS-CoV-2 y mililitr neu’n hafal i hynny,

(f)

enw gweithgynhyrchydd y ddyfais brofi a ddefnyddiwyd,

(g)

enw darparwr y prawf.

3.

(1)

Y personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 6A(4)(a) (nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r rheoliad hwnnw) yw—

(a)

person a ddisgrifir ym mharagraff 8 o Atodlen 2, hyd yn oed os nad ydynt yn teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu eu dychweliad i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r naill na’r llall o’r confensiynau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw,

(b)

person a ddisgrifir yn—

(i)

paragraff 13(1)(b) o Atodlen 2 pan fo’r Adran berthnasol, cyn i’r person ymadael i’r Deyrnas Unedig, wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiad hwn ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 6A, neu

(ii)

paragraff 13A o Atodlen 2 pan fo’r Adran berthnasol, cyn i’r person ymadael i’r Deyrnas Unedig, hefyd wedi ardystio nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 6A,

(c)

gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth (“C”) y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol neu blismona hanfodol yn y Deyrnas Unedig neu sy’n dychwelyd o wneud gwaith o’r fath y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan fo’r Adran berthnasol, cyn i P ymadael i’r Deyrnas Unedig, wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiad hwn ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 6A,

(d)

cynrychiolydd (“C”) gwlad neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig pan fo, cyn i C ymadael i’r Deyrnas Unedig—

(i)

pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd neu’r swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig, neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar ei awdurdod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ei bod yn ofynnol i C wneud gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig, a

(ii)

y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi cadarnhau yn ysgrifenedig wedi hynny i’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn is-baragraff (i)—

(aa)

ei bod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(bb)

bod C yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 6A,

(e)

gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith neu wasanaethau brys (gan gynnwys comisiynu, cynnal a chadw, ac atgyweirio a gwiriadau diogelwch) i sicrhau y parheir i gynhyrchu, cyflenwi, symud, gweithgynhyrchu, storio neu gadw nwyddau neu wasanaethau, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu fel arall i ddechrau neu ailddechrau gweithio.

(2)

Yn is-baragraff (1)—

mae i “contractwr llywodraeth” (“government contractor”), “gwaith llywodraeth hanfodol” (“essential government work”) a “gwas i’r Goron” (“Crown servant”) a “plismona hanfodol” (“essential policing”) yr ystyron a roddir ym mharagraff 13(2) o Atodlen 2;

mae i “swyddfa gonsylaidd” (“consular post”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1(3) o Atodlen 2..