Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/03/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

[F11.  Mae prawf yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—LL+C

(a)os yw’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws, sy’n—

(i)prawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)prawf a gynhaliwyd gan ddefnyddio dyfais y mae’r gweithgynhyrchydd yn datgan bod ganddi—

(aa)sensitifrwydd o 80% o leiaf,

(bb)penodolrwydd o 97% o leiaf, a

(cc)terfyn canfod o lai na 100,000 o gopïau SARS-CoV-2 y mililitr neu’n hafal i hynny,

(b)os nad yw’n brawf a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978, neu Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, a

(c)os cymerir sampl y prawf o berson ddim mwy na 72 o oriau cyn—

(i)yn achos person sy’n teithio i Gymru ar wasanaeth trafnidiaeth masnachol, yr amser a amserlennwyd ar gyfer ymadawiad y gwasanaeth, neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, amser ymadael gwirioneddol y llestr neu’r awyren y mae’r person hwnnw yn teithio arni i Gymru.]

Back to top

Options/Help