Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/07/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliadau 3(2), 7(4)(b) a 9
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 pennawd wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(a) (ynghyd â rhl. 11)
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Atod. 2 Rhn. 1 pennawd wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(b) (ynghyd â rhl. 11)
1.—(1) Person—LL+C
(a)sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig;
(b)sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig;
(c)sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol;
(d)a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth;
(e)sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol;
(f)sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig [F3yn y Deyrnas Unedig] y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;
(g)sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f);
(h)a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn [F4swyddfa] gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd;
(i)sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig;
(j)sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig;
(k)sy’n gludwr diplomyddol neu’n gludwr consylaidd;
(l)sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad [F59(2)(a)] (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 a 8) yw —
(a)bod pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r gynhadledd, y swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar eu awdurdod, yn cadarnhau mewn ysgrifen‘i’r [F6Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu] —
(i)ei bod yn ofynnol [F7i P] ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i weithrediad y genhadaeth, y [F8swyddfa] gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol neu’r gynhadledd, neu’r swyddfa, neu i ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig a
(ii)na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, a
(b)cyn i’r person gyrraedd y Deyrnas Unedig, bod y [F6Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu] —
(i)wedi rhoi cadarnhad mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a
(ii)os yw’r person yn gynrychiolydd i wlad neu diriogaeth dramor, bod y Swyddfa wedi rhoi cadarnhad wedyn mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) bod y person yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7 neu 8.
(3) At ddibenion y paragraff hwn—
(a)ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963,
(b)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd,
(c)ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithio ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1961,
(d)ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,
(e)ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, gweithiwr consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968(1), ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno,
(f)ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964(2).
(4) Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw freinryddid rhag awdurdodaeth neu anhydoredd a roddir i unrhyw berson a ddisgrifir yn is-baragraff (1) o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar wahân i’r Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 1(1)(f) wedi eu mewnosod (21.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329), rhlau. 1(2), 5
F4Gair yn Atod. 2 para. 1(1)(h) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F5Gair yn Atod. 2 para. 1(2) wedi ei amnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 9(4)(a)
F6Geiriau yn Atod. 2 para. 1(2)(a)(b) wedi eu hamnewid (7.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (O.S. 2020/1232), rhlau. 1(2), 4
F7Gair yn Atod. 2 para. 1(2)(a)(i) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
F8Geiriau yn Atod. 2 para. 1(2)(a)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(i) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth—LL+C
(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig [F9yn y] Deyrnas Unedig o fewn [F1010 n]iwrnod o gyrraedd y Deyrnas Unedig, neu ,
(b)sy’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond—
(i)ei bod yn ofynnol iddo ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig dros dro, a
(ii)y bydd wedyn yn ymadael er mwyn ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—
(a)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(3),
(b)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol,
(c)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o’r Ddeddf honno.
Diwygiadau Testunol
F9Geiriau yn Atod. 2 para. 2(1)(a) wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(i)(iii) (ynghyd â rhl. 11)
F10Gair yn Atod. 2 para. 2(1)(a) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(v)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—LL+C
(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni, F11...
[F12(aa)sydd wedi teithio o wlad neu diriogaeth esempt ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad neu sy’n ei gefnogi, ac nad oes unrhyw bersonau wedi mynd ar y llestr hwnnw neu’r awyren honno, nad yw wedi docio mewn unrhyw borthladd nac wedi glanio mewn unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu]
[F13(b)sydd wedi bod ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi [F14, neu sy’n ei gefnogi, neu gan lu ar ymweliad neu i’w gefnogi] am gyfnod di-dor o [F1510] o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd môr [F16mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] yn ystod y cyfnod hwnnw.]
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(4),
[F17(b)ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, criw neu adran o luoedd sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.]
Diwygiadau Testunol
F11Gair yn Atod. 2 para. 3(1) wedi ei hepgor (10.7.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(2)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F12Atod. 2 para. 3(1)(aa) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(2)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F13Atod. 2 para. 3(1)(b) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(i)(iv) (ynghyd â rhl. 11)
F14Geiriau yn Atod. 2 para. 3(1)(b) wedi eu mewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(2)(c)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F15Gair yn Atod. 2 para. 3(1)(b) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(v)
F16Geiriau yn Atod. 2 para. 3(1)(b) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(2)(c)(ii) (ynghyd â rhl. 7)
F17Atod. 2 para. 3(2)(b) wedi ei amnewid (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 6(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
4. Swyddog i Lywodraeth dramor y mae’n ofynnol iddo deithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol, neu gontractwr sy’n cefnogi’r dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol hyn yn uniongyrchol—LL+C
(a)pan fo’r swyddog neu’r contractwr yn meddu ar hysbysiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan aelod uwch o’r Llywodraeth dramor sy’n cadarnhau ei bod yn ofynnol iddo ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol yn y Deyrnas Unedig o fewn [F1810 n]iwrnod ar ôl iddynt gyrraedd ac na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, neu
(b)pan fo lleoliad y swyddog neu’r contractwr yn unol â chytundeb dwyochrog neu amlochrog sefydlog gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi ar weithredu rheolaethau ffin yn y Deyrnas Unedig.
Diwygiadau Testunol
F18Gair yn Atod. 2 para. 4(a) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(v)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
Diwygiadau Testunol
F19Geiriau yn Atod. 2 Rhn. 2 pennawd wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(c) (ynghyd â rhl. 11)
5. Person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, yn pasio trwodd i wlad neu diriogaeth arall heb ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Gweithiwr cludiant ffyrdd neu weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.LL+C
(2) At ddibenion y paragraff hwn—
(a)mae “gyrrwr” yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn,
(b)mae i “cerbyd nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods vehicle” yn adran 192 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(5),
(c)mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981(6),ystyr “gweithiwr cludiant ffyrdd” yw—
(i)gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddiben personol anfasnachol y gyrrwr, neu
(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1072/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (7), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth,
(d)ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—
(i)gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu
(ii)person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1073/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(8), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Meistri a morwyr, fel y’u diffinnir yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(9), pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu wedi eu dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007.LL+C
(2) At ddibenion [F20is-baragraff (1)] a pharagraff 8—
(a)ystyr “Confensiwn Llafur Morol 2006” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd ar 23 Chwefror 2006 gan Gynhadledd Gyffredinol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(10),
(b)ystyr “Confensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 14 Mehefin 2007 gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(11).
Diwygiadau Testunol
F20Geiriau yn Atod. 2 para. 7(2) wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(i)(v) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
8. Peilot, fel y’i diffinnir ym mharagraff 22(1) o Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995(12), pan fo’r peilot wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu wedi ei ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig F21....LL+C
Diwygiadau Testunol
F21Geiriau yn Atod. 2 para. 8 wedi eu hepgor (15.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/46), rhlau. 1(2), 7
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
[F229. Arolygydd neu syrfëwr llongau, a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu gan lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol fel y diffinnir “relevant British possession” yn adran 313(1) o’r Ddeddf honno, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.]LL+C
Diwygiadau Testunol
F22Atod. 2 para. 9 wedi ei amnewid (22.8.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 8(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
10. Person o fewn y diffinad o “crew” ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Llywio Awyr 2016(13), pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
11. Arolygwr hedfan sifil, fel y’u diffinnir yn Atodlen 9 i’r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol a lofnodwyd yn Chicago ar 7 Rhagfyr 1944(14), pan fo’r arolygwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig wrth ymgymryd â dyletswyddau arolygu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Unrhyw un o’r personau a ganlyn sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith—LL+C
(a)gyrwyr a chriwiau ar wasanaethau gwennol ac ar wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel,
(b)gweithwyr gweithredol, gweithwyr cynnal a chadw rheilffyrdd, a gweithwyr diogelwch a diogeledd sy’n gweithio ar system y twnnel,
(c)gweithwyr eraill sy’n cyflawni rolau hanfodol ar gyfer rhedeg, mewn modd diogel neu effeithlon, system y twnnel, gwasanaethau gwennol neu wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel, neu sy’n ymwneud â diogelwch system y twnnel neu unrhyw wasanaethau o’r fath.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i “gwasanaeth gwennol” yr ystyr a roddir i “shuttle service” yn adran 1(9) o Ddeddf Twnnel y Sianel 1987(15),
(b)mae i “system y twnnel” yr ystyr a roddir i “tunnel system” yn adran 1(7) o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
[F2313.—(1) Unrhyw berson y mae’r Adran berthnasol wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiadau yn is-baragraffau (a), (b) neu (c)—LL+C
(a)gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith plismona hanfodol neu waith llywodraeth hanfodol yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, oni bai am y paragraff hwn, hunanynysu yn unol â rheoliadau 7 neu 8;
(b)person sy’n dychwelyd o gynnal busnes hanfodol y wladwriaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(c)person sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig pan fo hynny’n angenrheidiol i hwyluso gweithrediad cenhadaeth ddiplomyddol neu swydd gonsylaidd Ei Mawrhydi, neu benodiad milwrol neu benodiad swyddogol arall ar ran Ei Mawrhydi.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)ystyr “swydd gonsylaidd” yw unrhyw brif gonswl, conswl, is-gonswl neu asiantaeth gonsylaidd,
(b)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989,
(c)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly [F24gan Weinidogion Cymru neu’r] Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, waith sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol â’i swyddogaethau statudol, a gwaith sy’n ymwneud â mewnfudo, clefyd y coronafeirws neu unrhyw ymateb argyfwng arall, ond nid yw’n cynnwys gwaith o’r disgrifiad a bennir ym mharagraff 2(1) o Ran 1 o’r Atodlen hon,
(d)ystyr “plismona hanfodol” yw plismona sydd wedi ei ddynodi felly ar ran y prif swyddog perthnasol neu’r prif gwnstabl perthnasol,
(e)ystyr “busnes hanfodol y wladwriaeth” yw gweithgaredd a ddynodwyd yn hanfodol i’r Deyrnas Unedig neu Lywodraeth Ei Mawrhydi gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, drafodaethau dwyochrog neu amlochrog â gwladwriaeth arall neu sefydliad rhyngwladol arall ac ymweliadau â gwladwriaeth arall ar ran y Deyrnas Unedig neu Lywodraeth ei Mawrhydi,
(f)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.]
Diwygiadau Testunol
F23Atod. 2 para. 13 wedi ei amnewid (21.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329), rhlau. 1(2), 6(2)
F24Geiriau yn Atod. 2 para. 13(2)(c) wedi eu mewnosod (28.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 9
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
[F2513A.—(1) Person sy’n dychwelyd o ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a ardystiwyd gan yr Adran berthnasol yn waith sy’n angenrheidiol i hwyluso gwaith llywodraeth hanfodol neu fusnes hanfodol y wladwriaeth.LL+C
(2) At ddibenion is-baragraff (1) mae i “gwaith llywodraeth hanfodol” a “busnes hanfodol y wladwriaeth” yr un ystyr ag a roddir iddynt ym mharagraff 13.]
Diwygiadau Testunol
F25Atod. 2 para. 13A wedi ei fewnosod (21.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329), rhlau. 1(2), 6(3)
14. Person a ddynodir gan y Gweinidog perthnasol o dan adran 5(3) o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984(16).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
15. Person sy’n gyfrifol am hebrwngLL+C
person a geisir i’w estraddodi yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Estraddodi 2003(17), neu berson a geisir i’w estraddodi yn unol ag unrhyw drefniadau estraddodi eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
16. Cynrychiolydd i unrhyw diriogaeth sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn cymryd i’r ddalfa berson y gorchmynnwyd ei ildio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Estraddodi 2003.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys—LL+C
(a)sy’n gysylltiedig â chyflenwadau dŵr a gwasanaethau carthffosiaeth, a
(b)a gyflawnir gan ymgymerwr dŵr, ymgymerwr carthffosiaeth, trwyddedai cyflenwi dŵr, trwyddedai carthffosiaeth neu awdurdod lleol, i’r rhain neu ar ran y rhain,
pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys—
(i)archwilio, cynnal a chadw, atgyweirio, a gweithgareddau amnewid asedau,
(ii)monitro, samplu a dadansoddi cyflenwadau dŵr o dan Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(18), Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(19), Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Lloegr) 2016(20) neu Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2016(21),
(b)[F26ystyr “trwyddedai carthffosiaeth” yw person sy’n ddeiliad trwydded carthffosiaeth o dan adran 17BA] o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(22),
(c)mae i “gwasanaethau carthffosiaeth” yr ystyr a roddir i “sewerage services” yn adran 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(23),
(d)ystyr “ymgymerwr carffosiaeth” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr carffosiaeth o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(24),
(e)mae i “trwyddedai cyflenwi dŵr” yr ystyr a roddir i “water supply licensee” yn adrannau 17A(7) a 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(25),
(f)ystyr “ymgymerwr dŵr” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991..
Diwygiadau Testunol
F26Geiriau yn Atod. 2 para. 17(2)(b) wedi eu hamnewid (30.7.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817), rhlau. 1(2), 9
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
[F2717A.—(1) Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n gysylltiedig â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ar ran—LL+C
(a)Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)Cyfoeth Naturiol Cymru;
(c)awdurdod llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru;
(d)awdurdod llifogydd lleol arweiniol yn Lloegr.
(2) Yn is-baragraff (1), mae i “rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol” ac “awdurdod llifogydd lleol arweiniol” yr ystyron a roddir i “flood and coastal erosion risk management” a “lead local flood authority” gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Diwygiadau Testunol
F27Atod. 2 parau. 17A, 17B wedi ei fewnosod (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(4) (ynghyd â rhl. 7)
17B. Gweithiwr sy’n gwneud gwaith hanfodol neu waith brys sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio sydd ar waith ar hyn o bryd neu a fu gynt ar waith ar ran—LL+C
(a)yr Awdurdod Glo;
(b)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(c)Cyfoeth Naturiol Cymru.]
Diwygiadau Testunol
F27Atod. 2 parau. 17A, 17B wedi ei fewnosod (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(4) (ynghyd â rhl. 7)
18.—(1) Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys—LL+C
(a)sy’n gysylltiedig—
(i)â gorsaf gynhyrchu,
(ii)â chydgysylltydd trydan,
(iii)â rhwydwaith gwres ardal fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014(26),
(iv)â gwresogi cymunedol fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014,
(v)â systemau glanhau awtomataidd ar falast a systemau ailosod traciau ar rwydwaith, neu
(vi)â chomisiynu, cynnal a chadw a thrwsio peiriannau diwydiannol i’w defnyddio ar rwydwaith, neu
(b)a gyflawnir gan, ar gyfer, neu ar ran—
(i)gweithredwr y system genedlaethol,
(ii)person sydd â thrwydded drawsyrru,
(iii)person sydd â thrwydded ddosbarthu,
(iv)person sydd â thrwydded o dan adran 7 a 7ZA o Ddeddf Nwy 1986(27),
(v)cyfleuster mewnforio neu allforio LNG fel y’i diffinnir yn adran 48 o Ddeddf Nwy 1986(28), neu
(vi)person sydd â thrwydded rwydwaith o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993,
pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)ystyr “trwydded ddosbarthu” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(c) o Ddeddf Trydan 1989(29),
(b)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys comisiynu, archwilio, cynnal a chadw, atgyweirio, a gweithgareddau amnewid asedau,
(c)ystyr “gweithredwr y system genedlaethol” yw’r person sy’n gweithredu system drawsyrru genedlaethol Prydain Fawr,
(d)mae i “rhwydwaith”, , yr ystyr a roddir i “network” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(30),
(e)ystyr “trwydded drawsyrru” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(b) o Ddeddf Trydan 1989,
(f)mae i “cydgysylltydd trydan”, “gorsaf gynhyrchu” a “system drawsyrru” yr ystyron a roddir i “electricity interconnector”, “generating station” a “transmission system” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989(31).
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
19.—(1) Person sydd—LL+C
(a)yn bersonél niwclear, ac sy’n hanfodol i weithrediad saff a diogel safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn perthynas ag ef,
(b)yn ymatebydd argyfwng niwclear,
(c)yn arolygydd asiantaeth, neu
(d)yn arolygydd Euratom, ar yr amod ei fod yn cyrraedd y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i “arolygydd asiantaeth” yr ystyr a roddir i “agency inspector” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Niwclear 2000(32),
(b)ystyr “ymatebydd argyfwng niwclear” yw person sy’n rhoi cymorth i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn ar Gymorth yn Achos Damwain Niwclear neu Argyfwng Radiolegol a wnaed yn Fienna ar 26 Medi 1986, sydd wedi ei hysbysu’n briodol i’r Deyrnas Unedig ac wedi ei dderbyn ganddi, pan fo’r Deyrnas Unedig wedi gofyn am gymorth o dan y Confensiwn hwnnw,
(c)ystyr “arolygydd Euratom” yw arolygydd a anfonwyd i’r Deyrnas Unedig gan Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn unol ag Erthyglau 81 a 82 o Gytuniad Euratom,
(d)ystyr “personél niwclear” yw—
(i)gweithiwr a gyflogir i gyflawni gwaith ar safle neu mewn perthynas â safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn perthynas ag ef, neu
(ii)cyflogai i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear(33),
(e)mae i “trwydded safle niwclear” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence” yn adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 1965(34).
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
20. Arolygydd o’r Sefydliad Gwahardd Arfau Cemegol o fewn yr ystyr a roddir i “inspector” yn adran 24(e) o Deddf Arfau Cemegol 1996(35) sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion arolygiad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
21.—(1) Person sydd—LL+C
(a)yn cyflawni swyddogaeth gritigol ar safle gofod,
(b)yn rheolwr llongau gofod sy’n gyfrifol am lywio a rheoli cerbyd lansio neu long ofod ar gyfer gweithrediadau enwol, osgoi gwrthdrawiadau neu anomaleddau, neu
(c)a gyflogir gan berson sy’n gweithredu neu’n cynnal galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod, neu sydd o dan gontract i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i “safle gofod” yr ystyr a roddir i “space site” ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 i Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018(36),
(b)ystyr “galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod” yw’r synwyryddion, y systemau a’r gwasanaethau dadansoddi y mae eu hangen i roi rhybuddion sy’n sensitif o ran amser ynglŷn â digwyddiadau tywydd yn y gofod, gwrthdrawiadau orbitol, drylliadau orbitol neu ailfynediad gwrthrychau a wnaed gan bobl o’u horbit,
(c)mae i “llong ofod” yr ystyr a roddir i “spacecraft” yn adran 2(6) o Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018,
(d)ystyr “rheolwr llong ofod” yw person sy’n gymwys, sydd wedi ei awdurdodi ac sy’n gyfrifol am gynnal gweithrediad saff a diogel llong ofod drwy fonitro statws llong ofod, rhoi gorchmynion llywio neu reoli agweddau eraill ar y llong ofod sy’n dylanwadu ar ei hymddygiad gan gynnwys ei symudiadau yn y gofod.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
22.—(1) Peiriannydd awyrofod arbenigol, neu weithiwr awyrofod arbenigol, pan fo’r peiriannydd neu’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.LL+C
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)ystyr “peiriannydd awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau peirianyddol er mwyn sicrhau bod gweithgareddau hedfan yn parhau i weithredu (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer llinellau cynhyrchu, cydrannau hedfan, awyrennau ar y ddaear ac awyrennau newydd),
(b)ystyr “gweithiwr awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau at ddiben sicrhau bod diogelwch yn cael ei reoli a bod ansawdd yn cael ei sicrhau yn unol â gofynion y safonau, y canllawiau a’r cyhoeddiadau perthnasol ar ddiogelwch hedfan a gynhyrchir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd(37).
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
23.—(1) Person sy’n ymwneud â gweithgareddau gweithredu, cynnal a chadw neu ddiogelwch cyfleuster yn y sector olew is sydd â chapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli—LL+C
(a)pan fo’r cyfleuster yn y sector olew is yn ymwneud â gweithgaredd penodedig a gyflawnir yn y Deyrnas Unedig yng nghwrs busnes, ac yn cyfrannu (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) at gyflenwi tanwyddau sy’n seiliedig ar olew crai i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig neu bersonau sy’n rhedeg busnes yn y Deyrnas Unedig, a
(b)pan fo angen y gweithgareddau er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn parhau i weithredu’n ddiogel,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae gan gyfleuster gapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli unrhyw bryd os cafodd ei ddefnyddio yn y flwyddyn galendr flaenorol at ddibenion gweithgareddau’r sector olew is mewn perthynas â mwy na’r nifer hwnnw o dunelli o olew,
(b)“gweithgareddau penodedig” yw—
(i)storio olew,
(ii)trafod olew,
(iii)cludo olew ar y môr neu ddŵr mewndirol,
(iv)cludo olew drwy bibellau,
(v)puro olew neu ei brosesu fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
24.—(1) Gweithiwr y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu gychwyn y canlynol o fewn [F28y cyfnod pan fyddent, oni bai am y paragraff hwn, wedi bod yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu (o fewn ystyr rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn)] —LL+C
(a)gweithgareddau ar [F29osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef],
(b)gweithgareddau ar seilwaith y sector petrolewm uwch neu mewn perthynas ag ef,
(c)gwaith diogelwch critigol ar [F30gosodiad alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei gadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei ailddefnyddio neu ffynnon sy’n cael ei datgomisiynu neu ei chadw hyd nes y caiff ei dymchwel neu ei hailddefnyddio] , neu
(d)gweithgareddau i ddarparu gweithwyr, nwyddau, deunyddiau neu gyfarpar neu wasanaethau hanfodol eraill y mae eu hangen i gefnogi gweithrediad diogel y gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).
[F31pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith.]
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i [F32“gosodiad alltraeth yr ystyr a roddir i “offshore installation”] yn adran 44 o Ddeddf Petrolewm 1998(38),
(b)mae i “seilwaith y sector petrolewm uwch” yr ystyr a roddir i “upstream petroleum infrastructure” yn adran 9H o Ddeddf Petrolewm 1998(39),
(c)mae i [F33“ffynnon” yr ystyr a roddir i “well”] yn adran 45A(10) o Ddeddf Petrolewm 1998(40).
Diwygiadau Testunol
F28Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1) wedi eu hamnewid (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 6(4)
F29Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(5)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F30Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1)(c) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(5)(c) (ynghyd â rhl. 7)
F31Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1) wedi eu mewnosod (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 6(5)
F32Gair yn Atod. 2 para. 24(2)(a) wedi ei amnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(5)(d) (ynghyd â rhl. 7)
F33Gair yn Atod. 2 para. 24(2)(c) wedi ei amnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(5)(e) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
25. Gweithredydd post, yn unol â’r diffiniad o “postal operator” yn adran 27(3) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011(41), pan fo’r gweithredydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
26. Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith neu wasanaethau hanfodol neu frys (gan gynnwys comisiynu, cynnal a chadw ac atgyweirio a gwiriadau diogelwch) i sicrhau y parheir i gynhyrchu, cyflenwi, symud, gweithgynhyrchu, storio neu gadw nwyddau, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu fel arall i ddechrau neu ailddechrau gweithio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
27. Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith hanfodol neu frys [F34(gan gynnwys adeiladu, comisiynu, gosod,] cynnal a chadw, atgyweirio a gwiriadau diogelwch) neu i gyflawni rhwymedigaethau contract neu fanylebau gwarantiad mewn cyfleusterau rheoli gwastraff a ddefnyddir ar gyfer rheoli, didoli, trin, adfer, neu waredu gwastraff (gan gynnwys ynni o wastraff), neu mewn cysylltiad â hynny, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.LL+C
Diwygiadau Testunol
F34Geiriau yn Atod. 2 para. 27 wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(6) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
[F3528.—(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunydd a ffurfir o gelloedd neu waed dynol, neu sy’n eu cynnwys, ac sydd i’w defnyddio er mwyn darparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd.LL+C
(2) At ddibenion y paragraff hwn—
mae “gwaed” (“blood”) yn cynnwys cydrannau gwaed;
mae i “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10(8).]
Diwygiadau Testunol
F35Atod. 2 para. 28 wedi ei amnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(7) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
F3629. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
Diwygiadau Testunol
F36Atod. 2 para. 29 wedi ei hepgor (10.7.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(8) (ynghyd â rhl. 7)
30. Person sy’n arolygydd yn yr ystyr a roddir i “inspector” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(42) sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
31.—(1) Person sydd—LL+C
(a)wedi teithio i’r Deyrnas Unedig—
(i)i gynnal treial clinigol o fewn ystyr “conducting a clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(43),
(ii)i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal treial clinigol, neu
(iii)i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol mewn perthynas â threial clinigol na ellir ei gynnal o bell,
(b)yn berson cymwys yn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 43 o’r Rheoliadau hynny, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath, neu
(c)yn noddwr yn yr ystyr a roddir i “sponsor” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny, neu’n cyflawni swyddogaethau neu ddyletswyddau noddwr, treial clinigol ac wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’r treial clinigol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
32. Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal ymchwiliad clinigol yn yr ystyr a roddir i “clinical investigation” yn Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002(44), neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal ymchwiliad clinigol neu i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol arall mewn perthynas ag ymchwiliad clinigol na ellir ei gynnal o bell.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
33.—(1) Person sydd—LL+C
(a)yn berson cymwys yn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 41(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(45),
(b)yn berson cyfrifol yn yr ystyr a roddir i “responsible person” yn rheoliad 45(1) o’r Rheoliadau hynny, neu
(c)yn berson â chymwysterau priodol sy’n gyfrifol am wyliadwriaeth ffarmacolegol yn yr ystyr a roddir i “an appropriately qualified person responsible for pharmacovigilance” yn rheoliad 182(2)(a) o’r Rheoliadau hynny,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
34.—(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith mewn diwydiannau seilwaith hanfodol gan gynnwys—LL+C
(a)person sy’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol ar seilwaith data y mae ei angen i leihau a datrys diffoddiadau, neu â darparu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi’r gweithgareddau hyn, a
(b)gweithiwr proffesiynol technoleg gwybodaeth neu delathrebu (gan gynnwys ymgynghorydd technoleg gwybodaeth, dadansoddwr ansawdd, profwr meddalwedd, profwr systemau, a chynllunydd telathrebu), y mae angen ei arbenigedd er mwyn—
(i)darparu ymateb hanfodol neu frys i fygythiadau a digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth, a
(ii)sicrhau bod unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth yn parhau i weithredu.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae i “system rhwydwaith a gwybodaeth” yr ystyr a roddir i “network and information system” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth 2018(46).
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
35. Person sy’n ymwneud â gwaith brys neu waith hanfodol—LL+C
(a)sy’n angenrheidiol er mwyn parhau i weithredu—
(i)rhwydweithiau a gwasanaethau cyfathrebu electronig fel y’u diffinnir yn adran 32 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(47), F37... neu
(ii)rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru darllediadau’r BBC,
(b)mewn cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy’n cynnal cyfrinachedd, cyflawnder ac argaeledd y rhwydweithiau a’r gwasanaethau cyfathrebu electronig a rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru’r BBC,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
Diwygiadau Testunol
F37Geiriau yn Atod. 2 para. 35(a)(i) wedi eu hepgor (21.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329), rhlau. 1(2), 6(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
36. Person—LL+C
(a)sy’n dilyn gweithgaredd fel person cyflogedig neu hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig ac sy’n preswylio mewn gwlad arall y mae fel arfer yn dychwelyd iddi o leiaf unwaith yr wythnos, neu
(b)sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig ac sy’n dilyn gweithgaredd fel person cyflogedig neu hunangyflogedig mewn gwlad arall y mae fel arfer yn mynd iddi o leiaf unwaith yr wythnos.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
F3837. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .LL+C
Diwygiadau Testunol
F38Atod. 2 para. 37 wedi ei hepgor (18.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/50), rhlau. 1(2), 4
[F3938.—[F40(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—LL+C
(a)sy’n athletwr elît a fu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,
(b)a fu’n [F41hyfforddi athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn darparu cymorth iddo], neu
(c)a fu’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn ymwneud â’i rhedeg,
[F42(d)sy’n athletwr elît a fu’n mynychu rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,
(e)a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît ar raglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi’r athletwr elît hwnnw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,]
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor [F43neu’r rhaglen hyfforddi dramor].]
(2) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “athletwr elît” yw person—
(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,
[F44(ii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru,
(iii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny), neu
(iv)nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), (ii) na (iii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa UEFA.]
(b)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—
(i)i ennill bywoliaeth, neu
(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;
(c)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o [F4510] o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod olaf ynysiad y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.]
Diwygiadau Testunol
F39Atod. 2 para. 38 wedi ei fewnosod (22.8.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 8(3)
F40Atod. 2 para. 38(1) wedi ei amnewid (19.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015), rhlau. 1(2), 6
F41Geiriau yn Atod. 2 para. 38(1)(b) wedi eu hamnewid (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 5(2)
F42Atod. 2 para. 38(1)(d)(e) wedi ei fewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 5(3)
F43Geiriau yn Atod. 2 para. 38(1) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 5(4)
F44Atod. 2 para. 38(2)(a)(ii)-(iv) wedi ei amnewid ar gyfer Atod. 2 para. 38(2)(a)(ii) (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 6(6)
F45Gair yn Atod. 2 para. 38(2)(c) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(v)
[F4639. Person —LL+C
(a)sy’n ymwneud â gosod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
(b)y mae ei rôl yn cefnogi yn uniongyrchol y gwaith o osod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.]
Diwygiadau Testunol
F46Atod. 2 para. 39 wedi ei fewnosod (21.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329), rhlau. 1(2), 6(5)
1968 p. 18. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.
1964 p. 81. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.
1989 p. 6. Diwygiwyd adran 12 gan baragraff 22 o Atodlen 10 i Ddeddf Lluoedd wrth Gefn 1996 (p. 14), gan baragraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), gan baragraff 26 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46), gan baragraff 9(3) o Atodlen 13 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (p. 47), gan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p. 32), gan baragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf Ynni 2004 (p. 20), gan baragraff 58 o Atodlen 4 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, gan baragraff 34 o Atodlen 10, i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi, a chan baragraff 36 o Atodlen 8 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22).
1988 p. 52. Ceir diwygiadau i adran 192 ond nid yw’r un yn berthnasol.
1981 p. 14. Diwygiwyd adran 1 gan adran 139(3) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67).
OJ Rhif L300, 14.11.2009, t. 72.
OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t. 88-105
1995 p. 21. Ceir diwygiadau i adran 313(1) ond nid yw’r un yn berthnasol.
Gorch. 7049. ISBN 978 010 1889 766.
Gorch. 7375.
Mewnosodwyd Atodlen 3A gan Atodlen 1 i Ddeddf Diogelwch Morol 2003 (p. 16).
O.S. 2016/765. Ceir diwygiadau i Atodlen 1 ond nid yw’r un yn berthnasol.
Argraffiad diweddaraf Atodlen 9, a gyhoeddir gan y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol, yw’r 15ed argraffiad, sy’n gymwys ers 23 Chwefror 2018 (ISBN 978-92-9258-301-9).
O.S. 2017/1041 (Cy. 270); a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/647 (Cy. 121), O.S. 2019/460 (Cy. 110) ac O.S. 2019/463 (Cy. 111).
O.S. 2018/647 (Cy. 121); a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/463 (Cy. 111).
O.S. 2016/618; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2017/506, O.S. 2018/707 ac O.S. 2019/558.
O.S. 2016/614; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2017/506, O.S. 2018/706, O.S. 2018/378, O.S. 2019/526 ac O.S. 2019/558.
1991 p. 56. Mewnosodwyd adran 17BA(6) gan adran 4(1) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21). Mewnosodwyd y cyfeiriad at “sewerage licensee” yn adran 219(1) gan baragraff 120(2)(f) o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.
Diwygiwyd y diffiniad o “sewerage services” gan baragraff 120 o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.
Diwygiwyd adran 6 gan adran 36(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37) ac Atodlen 8 i’r Ddeddf honno, Atodlen 23 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), ac Atodlen 7 i Deddf Dŵr 2014.
Mewnosodwyd adran 17A gan adran 1 o Ddeddf Dŵr 2014.
O.S. 2014/3120. Nid oes offerynnau diwygio perthnasol.
1986 p. 44. Mewnosodwyd adran 7ZA gan adran 149(6) o Ddeddf Ynni 2004.
Mewnosodwyd y diffiniad gan O.S. 2011/2704.
1993 p. 43. Ceir diwygiadau i adran 83(1) ond nid yw’r un yn berthnasol.
Mewnosodwyd y diffiniad o “electricity interconnector” gan adran 147(7) o Ddeddf Ynni 2004. Amnewidiwyd y diffiniad o “transmission system” gan baragraff 15 o Atodlen 19 i Ddeddf 2004.
Sefydlwyd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2004 p. 20.
1965 p. 57. Amnewidiwyd adran 1 gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Ynni 2013 (p. 32); yn rhinwedd adran 1(2), cyfeirir at drwydded a ddisgrifir yn adran 1(1) fel “nuclear site licence”.
Sefydlwyd yr Awdurdod Hedfan Sifil o dan adran 1(1) o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75). Disodlwyd y Ddeddf honno gan statud cydgrynhoi, Deddf Hedfan Sifil 1982 (p.16), y mae adran 2(1) o’r Ddeddf honno’n darparu ar gyfer parhad yr Awdurdod Hedfan Sifil. Ceir diwygiadau i adran 2 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Sefydlwyd Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd gan Reoliad (EU) 2018/1139 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 4 Gorffennaf 2018 ar reolau cyffredin ym maes hedfan sifil ac yn sefydlu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd, ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 2111/2005, (EC) Rhif 1008/2008, (EU) Rhif 996/2010, (EU) Rhif 376/2014 a Chyfarwyddebau 2014/30/EU a 2014/53/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 552/2004 ac (EC) Rhif 216/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3922/91.
1998 p. 17. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 11 o Atodlen 1 i Ddeddf Ynni 2008 (p. 32).
Amnewidiwyd adran 9H gan adran 74(2) o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20).
Mewnosodwyd adran 45A gan adran 75(1) o Ddeddf Ynni 2008. Ceir diwygiadau i adran 45A(10) ond nid yw’r un yn berthnasol.
O.S. 2004/1031, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
2003 p. 21. Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communications network” gan O.S. 2011/1210.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: