xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 2LL+C[F1Personau esempt]

RHAN 1LL+CPersonau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad [F24,5,7 nac 8]

1.—(1Person—LL+C

(a)sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig;

(b)sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol;

(d)a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth;

(e)sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol;

(f)sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig [F3yn y Deyrnas Unedig] y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

(g)sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f);

(h)a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn [F4swyddfa] gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd;

(i)sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig;

(j)sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig;

(k)sy’n gludwr diplomyddol neu’n gludwr consylaidd;

(l)sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad [F59(2)(a)] (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 a 8) yw —

(a)bod pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r gynhadledd, y swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar eu awdurdod, yn cadarnhau mewn ysgrifen‘i’r [F6Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu]

(i)ei bod yn ofynnol [F7i P] ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i weithrediad y genhadaeth, y [F8swyddfa] gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol neu’r gynhadledd, neu’r swyddfa, neu i ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig a

(ii)na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, a

(b)cyn i’r person gyrraedd y Deyrnas Unedig, bod y [F6Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu]

(i)wedi rhoi cadarnhad mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(ii)os yw’r person yn gynrychiolydd i wlad neu diriogaeth dramor, bod y Swyddfa wedi rhoi cadarnhad wedyn mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) bod y person yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7 neu 8.

(3At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963,

(b)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd,

(c)ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithio ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1961,

(d)ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,

(e)ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, gweithiwr consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968(1), ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno,

(f)ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964(2).

(4Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw freinryddid rhag awdurdodaeth neu anhydoredd a roddir i unrhyw berson a ddisgrifir yn is-baragraff (1) o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar wahân i’r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

(1)

1968 p. 18. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.

(2)

1964 p. 81. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.