12.—(1) Unrhyw un o’r personau a ganlyn sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith—LL+C
(a)gyrwyr a chriwiau ar wasanaethau gwennol ac ar wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel,
(b)gweithwyr gweithredol, gweithwyr cynnal a chadw rheilffyrdd, a gweithwyr diogelwch a diogeledd sy’n gweithio ar system y twnnel,
(c)gweithwyr eraill sy’n cyflawni rolau hanfodol ar gyfer rhedeg, mewn modd diogel neu effeithlon, system y twnnel, gwasanaethau gwennol neu wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel, neu sy’n ymwneud â diogelwch system y twnnel neu unrhyw wasanaethau o’r fath.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i “gwasanaeth gwennol” yr ystyr a roddir i “shuttle service” yn adran 1(9) o Ddeddf Twnnel y Sianel 1987(1),
(b)mae i “system y twnnel” yr ystyr a roddir i “tunnel system” yn adran 1(7) o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)