Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 pennawd wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(a) (ynghyd â rhl. 11)
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Atod. 2 Rhn. 2 pennawd wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(c) (ynghyd â rhl. 11)
12.—(1) Unrhyw un o’r personau a ganlyn sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith—LL+C
(a)gyrwyr a chriwiau ar wasanaethau gwennol ac ar wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel,
(b)gweithwyr gweithredol, gweithwyr cynnal a chadw rheilffyrdd, a gweithwyr diogelwch a diogeledd sy’n gweithio ar system y twnnel,
(c)gweithwyr eraill sy’n cyflawni rolau hanfodol ar gyfer rhedeg, mewn modd diogel neu effeithlon, system y twnnel, gwasanaethau gwennol neu wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel, neu sy’n ymwneud â diogelwch system y twnnel neu unrhyw wasanaethau o’r fath.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i “gwasanaeth gwennol” yr ystyr a roddir i “shuttle service” yn adran 1(9) o Ddeddf Twnnel y Sianel 1987(1),
(b)mae i “system y twnnel” yr ystyr a roddir i “tunnel system” yn adran 1(7) o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)