xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 2LL+C[F1Personau esempt]

RHAN 2LL+CPersonau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad [F27 nac 8]

[F313.(1) Unrhyw berson y mae’r Adran berthnasol wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiadau yn is-baragraffau (a), (b) neu (c)—LL+C

(a)gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith plismona hanfodol neu waith llywodraeth hanfodol yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, oni bai am y paragraff hwn, hunanynysu yn unol â rheoliadau 7 neu 8;

(b)person sy’n dychwelyd o gynnal busnes hanfodol y wladwriaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(c)person sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig pan fo hynny’n angenrheidiol i hwyluso gweithrediad cenhadaeth ddiplomyddol neu swydd gonsylaidd Ei Mawrhydi, neu benodiad milwrol neu benodiad swyddogol arall ar ran Ei Mawrhydi.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “swydd gonsylaidd” yw unrhyw brif gonswl, conswl, is-gonswl neu asiantaeth gonsylaidd,

(b)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989,

(c)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly [F4gan Weinidogion Cymru neu’r] Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, waith sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol â’i swyddogaethau statudol, a gwaith sy’n ymwneud â mewnfudo, clefyd y coronafeirws neu unrhyw ymateb argyfwng arall, ond nid yw’n cynnwys gwaith o’r disgrifiad a bennir ym mharagraff 2(1) o Ran 1 o’r Atodlen hon,

(d)ystyr “plismona hanfodol” yw plismona sydd wedi ei ddynodi felly ar ran y prif swyddog perthnasol neu’r prif gwnstabl perthnasol,

(e)ystyr “busnes hanfodol y wladwriaeth” yw gweithgaredd a ddynodwyd yn hanfodol i’r Deyrnas Unedig neu Lywodraeth Ei Mawrhydi gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, drafodaethau dwyochrog neu amlochrog â gwladwriaeth arall neu sefydliad rhyngwladol arall ac ymweliadau â gwladwriaeth arall ar ran y Deyrnas Unedig neu Lywodraeth ei Mawrhydi,

(f)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.]