xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 pennawd wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(a) (ynghyd â rhl. 11)
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Atod. 2 Rhn. 2 pennawd wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(c) (ynghyd â rhl. 11)
17.—(1) Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys—LL+C
(a)sy’n gysylltiedig â chyflenwadau dŵr a gwasanaethau carthffosiaeth, a
(b)a gyflawnir gan ymgymerwr dŵr, ymgymerwr carthffosiaeth, trwyddedai cyflenwi dŵr, trwyddedai carthffosiaeth neu awdurdod lleol, i’r rhain neu ar ran y rhain,
pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys—
(i)archwilio, cynnal a chadw, atgyweirio, a gweithgareddau amnewid asedau,
(ii)monitro, samplu a dadansoddi cyflenwadau dŵr o dan Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(1), Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(2), Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Lloegr) 2016(3) neu Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2016(4),
(b)[F3ystyr “trwyddedai carthffosiaeth” yw person sy’n ddeiliad trwydded carthffosiaeth o dan adran 17BA] o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(5),
(c)mae i “gwasanaethau carthffosiaeth” yr ystyr a roddir i “sewerage services” yn adran 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(6),
(d)ystyr “ymgymerwr carffosiaeth” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr carffosiaeth o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(7),
(e)mae i “trwyddedai cyflenwi dŵr” yr ystyr a roddir i “water supply licensee” yn adrannau 17A(7) a 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(8),
(f)ystyr “ymgymerwr dŵr” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991..
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 17(2)(b) wedi eu hamnewid (30.7.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817), rhlau. 1(2), 9
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
O.S. 2017/1041 (Cy. 270); a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/647 (Cy. 121), O.S. 2019/460 (Cy. 110) ac O.S. 2019/463 (Cy. 111).
O.S. 2018/647 (Cy. 121); a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/463 (Cy. 111).
O.S. 2016/618; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2017/506, O.S. 2018/707 ac O.S. 2019/558.
O.S. 2016/614; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2017/506, O.S. 2018/706, O.S. 2018/378, O.S. 2019/526 ac O.S. 2019/558.
1991 p. 56. Mewnosodwyd adran 17BA(6) gan adran 4(1) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21). Mewnosodwyd y cyfeiriad at “sewerage licensee” yn adran 219(1) gan baragraff 120(2)(f) o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.
Diwygiwyd y diffiniad o “sewerage services” gan baragraff 120 o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.
Diwygiwyd adran 6 gan adran 36(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37) ac Atodlen 8 i’r Ddeddf honno, Atodlen 23 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), ac Atodlen 7 i Deddf Dŵr 2014.
Mewnosodwyd adran 17A gan adran 1 o Ddeddf Dŵr 2014.