Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 2LL+C[F1Personau esempt]

RHAN 2LL+CPersonau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad [F27 nac 8]

19.—(1Person sydd—LL+C

(a)yn bersonél niwclear, ac sy’n hanfodol i weithrediad saff a diogel safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn perthynas ag ef,

(b)yn ymatebydd argyfwng niwclear,

(c)yn arolygydd asiantaeth, neu

(d)yn arolygydd Euratom, ar yr amod ei fod yn cyrraedd y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “arolygydd asiantaeth” yr ystyr a roddir i “agency inspector” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Niwclear 2000(1),

(b)ystyr “ymatebydd argyfwng niwclear” yw person sy’n rhoi cymorth i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn ar Gymorth yn Achos Damwain Niwclear neu Argyfwng Radiolegol a wnaed yn Fienna ar 26 Medi 1986, sydd wedi ei hysbysu’n briodol i’r Deyrnas Unedig ac wedi ei dderbyn ganddi, pan fo’r Deyrnas Unedig wedi gofyn am gymorth o dan y Confensiwn hwnnw,

(c)ystyr “arolygydd Euratom” yw arolygydd a anfonwyd i’r Deyrnas Unedig gan Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn unol ag Erthyglau 81 a 82 o Gytuniad Euratom,

(d)ystyr “personél niwclear” yw—

(i)gweithiwr a gyflogir i gyflawni gwaith ar safle neu mewn perthynas â safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn perthynas ag ef, neu

(ii)cyflogai i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear(2),

(e)mae i “trwydded safle niwclear” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence” yn adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 1965(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

(2)

Sefydlwyd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2004 p. 20.

(3)

1965 p. 57. Amnewidiwyd adran 1 gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Ynni 2013 (p. 32); yn rhinwedd adran 1(2), cyfeirir at drwydded a ddisgrifir yn adran 1(1) fel “nuclear site licence”.