2.—(1) Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth—LL+C
(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig [F1yn y] Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod o gyrraedd y Deyrnas Unedig, neu ,
(b)sy’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond—
(i)ei bod yn ofynnol iddo ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig dros dro, a
(ii)y bydd wedyn yn ymadael er mwyn ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—
(a)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(1),
(b)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol,
(c)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o’r Ddeddf honno.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 2(1)(a) wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(i)(iii) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
1989 p. 6. Diwygiwyd adran 12 gan baragraff 22 o Atodlen 10 i Ddeddf Lluoedd wrth Gefn 1996 (p. 14), gan baragraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), gan baragraff 26 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46), gan baragraff 9(3) o Atodlen 13 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (p. 47), gan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p. 32), gan baragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf Ynni 2004 (p. 20), gan baragraff 58 o Atodlen 4 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, gan baragraff 34 o Atodlen 10, i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi, a chan baragraff 36 o Atodlen 8 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22).