ATODLEN 2Personau esempt

RHAN 1Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 4,5,7 nac 8

2.

(1)

Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth—

(a)

y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig F1yn y Deyrnas Unedig o fewn F210 niwrnod o gyrraedd y Deyrnas Unedig, neu ,

(b)

sy’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond—

(i)

ei bod yn ofynnol iddo ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig dros dro, a

(ii)

y bydd wedyn yn ymadael er mwyn ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(2)

At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—

(a)

mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 198916,

(b)

ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol,

(c)

mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o’r Ddeddf honno.