Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

21.—(1Person sydd—LL+C

(a)yn cyflawni swyddogaeth gritigol ar safle gofod,

(b)yn rheolwr llongau gofod sy’n gyfrifol am lywio a rheoli cerbyd lansio neu long ofod ar gyfer gweithrediadau enwol, osgoi gwrthdrawiadau neu anomaleddau, neu

(c)a gyflogir gan berson sy’n gweithredu neu’n cynnal galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod, neu sydd o dan gontract i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “safle gofod” yr ystyr a roddir i “space site” ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 i Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018(1),

(b)ystyr “galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod” yw’r synwyryddion, y systemau a’r gwasanaethau dadansoddi y mae eu hangen i roi rhybuddion sy’n sensitif o ran amser ynglŷn â digwyddiadau tywydd yn y gofod, gwrthdrawiadau orbitol, drylliadau orbitol neu ailfynediad gwrthrychau a wnaed gan bobl o’u horbit,

(c)mae i “llong ofod” yr ystyr a roddir i “spacecraft” yn adran 2(6) o Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018,

(d)ystyr “rheolwr llong ofod” yw person sy’n gymwys, sydd wedi ei awdurdodi ac sy’n gyfrifol am gynnal gweithrediad saff a diogel llong ofod drwy fonitro statws llong ofod, rhoi gorchmynion llywio neu reoli agweddau eraill ar y llong ofod sy’n dylanwadu ar ei hymddygiad gan gynnwys ei symudiadau yn y gofod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)