ATODLEN 2Personau esempt

RHAN 2Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 nac 8

24.

(1)

Gweithiwr F1y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu gychwyn y canlynol o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig

(a)

gweithgareddau ar F2osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef ,

(b)

gweithgareddau ar seilwaith y sector petrolewm uwch neu mewn perthynas ag ef,

(c)

gwaith diogelwch critigol ar F3gosodiad alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei gadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei ailddefnyddio neu ffynnon sy’n cael ei datgomisiynu neu ei chadw hyd nes y caiff ei dymchwel neu ei hailddefnyddio , neu

(d)

gweithgareddau i ddarparu gweithwyr, nwyddau, deunyddiau neu gyfarpar neu wasanaethau hanfodol eraill y mae eu hangen i gefnogi gweithrediad diogel y gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).

(2)

At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)

mae i F4“gosodiad alltraeth yr ystyr a roddir i “offshore installation” yn adran 44 o Ddeddf Petrolewm 199854,

(b)

mae i “seilwaith y sector petrolewm uwch” yr ystyr a roddir i “upstream petroleum infrastructure” yn adran 9H o Ddeddf Petrolewm 199855,

(c)

mae i F5“ffynnon” yr ystyr a roddir i “well” yn adran 45A(10) o Ddeddf Petrolewm 199856.