Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 pennawd wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(a) (ynghyd â rhl. 11)
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn Atod. 2 Rhn. 2 pennawd wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(3)(c) (ynghyd â rhl. 11)
24.—(1) Gweithiwr y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu gychwyn y canlynol o fewn [F3y cyfnod pan fyddent, oni bai am y paragraff hwn, wedi bod yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu (o fewn ystyr rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn)] —LL+C
(a)gweithgareddau ar [F4osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef],
(b)gweithgareddau ar seilwaith y sector petrolewm uwch neu mewn perthynas ag ef,
(c)gwaith diogelwch critigol ar [F5gosodiad alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei gadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei ailddefnyddio neu ffynnon sy’n cael ei datgomisiynu neu ei chadw hyd nes y caiff ei dymchwel neu ei hailddefnyddio] , neu
(d)gweithgareddau i ddarparu gweithwyr, nwyddau, deunyddiau neu gyfarpar neu wasanaethau hanfodol eraill y mae eu hangen i gefnogi gweithrediad diogel y gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).
[F6pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith.]
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i [F7“gosodiad alltraeth yr ystyr a roddir i “offshore installation”] yn adran 44 o Ddeddf Petrolewm 1998(1),
(b)mae i “seilwaith y sector petrolewm uwch” yr ystyr a roddir i “upstream petroleum infrastructure” yn adran 9H o Ddeddf Petrolewm 1998(2),
(c)mae i [F8“ffynnon” yr ystyr a roddir i “well”] yn adran 45A(10) o Ddeddf Petrolewm 1998(3).
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1) wedi eu hamnewid (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 6(4)
F4Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(5)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F5Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1)(c) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(5)(c) (ynghyd â rhl. 7)
F6Geiriau yn Atod. 2 para. 24(1) wedi eu mewnosod (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 6(5)
F7Gair yn Atod. 2 para. 24(2)(a) wedi ei amnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(5)(d) (ynghyd â rhl. 7)
F8Gair yn Atod. 2 para. 24(2)(c) wedi ei amnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(5)(e) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
1998 p. 17. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 11 o Atodlen 1 i Ddeddf Ynni 2008 (p. 32).
Amnewidiwyd adran 9H gan adran 74(2) o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20).
Mewnosodwyd adran 45A gan adran 75(1) o Ddeddf Ynni 2008. Ceir diwygiadau i adran 45A(10) ond nid yw’r un yn berthnasol.