27. Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith hanfodol neu frys [F1(gan gynnwys adeiladu, comisiynu, gosod,] cynnal a chadw, atgyweirio a gwiriadau diogelwch) neu i gyflawni rhwymedigaethau contract neu fanylebau gwarantiad mewn cyfleusterau rheoli gwastraff a ddefnyddir ar gyfer rheoli, didoli, trin, adfer, neu waredu gwastraff (gan gynnwys ynni o wastraff), neu mewn cysylltiad â hynny, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.LL+C
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 27 wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 6(6) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)