28.—(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn cludo, i ddarparwr gwasanaethau iechyd (o fewn ystyr rheoliad 10(8)) yn y Deyrnas Unedig, ddeunydd a ffurfir o gelloedd neu waed dynol, neu sy’n cynnwys celloedd neu waed dynol, ac sydd i’w ddefnyddio er mwyn darparu gwasanaethau iechyd.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) mae “gwaed” yn cynnwys cydrannau gwaed.