xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—LL+C
(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni, neu
(b)sydd wedi ymgymryd â chyfnod di-dor o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf cyn iddo gyrraedd y Deyrnas Unedig.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(1),
(b)ystyr “llu ar ymweliad” yw llu ar ymweliad o fewn yr ystyr a roddir i “visiting force” yn adran 12(1) o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(2), pan fo’r llu hwnnw’n dod o wlad a restrir o dan adran 1(1)(a) neu a ddynodir o dan adran 1(1)(b) neu 1(2) o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(3), neu sy’n aelod-wlad o Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
1952 p. 67. Diwygiwyd y diffiniad o “visiting force” yn adran 12(1) gan baragraff 14(1) o Atodlen 15 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (c. 33).
Mae adran 1(a) wedi ei diwygio nifer o weithiau. Dyma’r gwledydd a restrir: Canada, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, India, Pakistan, Ceylon, Ghana, Malaysia, Gweriniaeth Cyprus, Nigeria, Sierra Leone, Tanganyika, Jamaica, Trinidad a Tobago, Uganda, Kenya, Zanzibar, Malawi, Zambia, Malta, Y Gambia, Guyana, Botswana, Lesotho, Singapore, Barbados, Mauritius, Swaziland, Tonga, Fiji, y Bahamas, Bangladesh, Ynysoedd Solomon, Tuvalu, Dominica, St. Lucia, Kiribati, St. Vincent a’r Grenadines, Papua Guinea Newydd, Gorllewin Samoa a Nauru, Zimbabwe, yr Hebrides Newydd, Belize, Antigua a Barbuda, Saint Christopher a Nevis, Brunei, Maldives, Namibia, Cameroon a Mozambique.