Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

3.—(1Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—LL+C

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni, F1...

[F2(aa)sydd wedi teithio o wlad neu diriogaeth esempt ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad neu sy’n ei gefnogi, ac nad oes unrhyw bersonau wedi mynd ar y llestr hwnnw neu’r awyren honno, nad yw wedi docio mewn unrhyw borthladd nac wedi glanio mewn unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu]

[F3(b)sydd wedi bod ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi [F4, neu sy’n ei gefnogi, neu gan lu ar ymweliad neu i’w gefnogi] am gyfnod di-dor o [F510] o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd môr [F6mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] yn ystod y cyfnod hwnnw.]

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(1),

[F7(b)ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, criw neu adran o luoedd sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)