Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

34.—(1Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith mewn diwydiannau seilwaith hanfodol gan gynnwys—LL+C

(a)person sy’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol ar seilwaith data y mae ei angen i leihau a datrys diffoddiadau, neu â darparu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi’r gweithgareddau hyn, a

(b)gweithiwr proffesiynol technoleg gwybodaeth neu delathrebu (gan gynnwys ymgynghorydd technoleg gwybodaeth, dadansoddwr ansawdd, profwr meddalwedd, profwr systemau, a chynllunydd telathrebu), y mae angen ei arbenigedd er mwyn—

(i)darparu ymateb hanfodol neu frys i fygythiadau a digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth, a

(ii)sicrhau bod unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth yn parhau i weithredu.

(2At ddibenion is-baragraff (1), mae i “system rhwydwaith a gwybodaeth” yr ystyr a roddir i “network and information system” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth 2018(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)