ATODLEN 2Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 3 neu 4

RHAN 2Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 4

35.  Person sy’n ymwneud â gwaith brys neu waith hanfodol—

(a)sy’n angenrheidiol er mwyn parhau i weithredu—

(i)rhwydweithiau a gwasanaethau cyfathrebu electronig fel y’u diffinnir yn adran 32 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(1), gan gynnwys gwaith sy’n ymwneud â chynnal a chadw ac atgyweirio ceblau tanfor sy’n cysylltu’r Deyrnas Unedig â gwledydd eraill, neu

(ii)rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru darllediadau’r BBC,

(b)mewn cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy’n cynnal cyfrinachedd, cyflawnder ac argaeledd y rhwydweithiau a’r gwasanaethau cyfathrebu electronig a rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru’r BBC,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(1)

2003 p. 21. Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communications network” gan O.S. 2011/1210.