[F138.—(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—LL+C
(a)sy’n athletwr elît sy’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,
(b)sy’n darparu cymorth i athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu fel arall yn ei hyfforddi, neu
(c)sy’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor neu fel arall yn ymwneud â’i rhedeg,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor.
(2) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “athletwr elît” yw person—
(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,
(ii)sy’n athletwr elît o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, neu
(iii)nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i) neu (ii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa;
(b)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—
(i)i ennill bywoliaeth, neu
(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;
(c)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod olaf ynysiad y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 para. 38 wedi ei fewnosod (22.8.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 8(3)