[F138.—[F2(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—LL+C
(a)sy’n athletwr elît a fu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,
(b)a fu’n [F3hyfforddi athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn darparu cymorth iddo], neu
(c)a fu’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn ymwneud â’i rhedeg,
[F4(d)sy’n athletwr elît a fu’n mynychu rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,
(e)a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît ar raglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi’r athletwr elît hwnnw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,]
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor [F5neu’r rhaglen hyfforddi dramor].]
(2) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “athletwr elît” yw person—
(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,
[F6(ii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru,
(iii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny), neu
(iv)nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), (ii) na (iii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa UEFA.]
(b)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—
(i)i ennill bywoliaeth, neu
(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;
(c)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o [F710] o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod olaf ynysiad y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 para. 38 wedi ei fewnosod (22.8.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 8(3)
F2Atod. 2 para. 38(1) wedi ei amnewid (19.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015), rhlau. 1(2), 6
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 38(1)(b) wedi eu hamnewid (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 5(2)
F4Atod. 2 para. 38(1)(d)(e) wedi ei fewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 5(3)
F5Geiriau yn Atod. 2 para. 38(1) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 5(4)
F6Atod. 2 para. 38(2)(a)(ii)-(iv) wedi ei amnewid ar gyfer Atod. 2 para. 38(2)(a)(ii) (1.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191), rhlau. 1(2), 6(6)
F7Gair yn Atod. 2 para. 38(2)(c) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(v)