7.—(1) Meistri a morwyr, fel y’u diffinnir yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(1), pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu wedi eu dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007.LL+C
(2) At ddibenion [F1is-baragraff (1)] a pharagraff 8—
(a)ystyr “Confensiwn Llafur Morol 2006” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd ar 23 Chwefror 2006 gan Gynhadledd Gyffredinol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(2),
(b)ystyr “Confensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 14 Mehefin 2007 gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol(3).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 7(2) wedi eu hamnewid (C.) (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(i)(v) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)
1995 p. 21. Ceir diwygiadau i adran 313(1) ond nid yw’r un yn berthnasol.
Gorch. 7049. ISBN 978 010 1889 766.
Gorch. 7375.