xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+C[F1Personau esempt]

RHAN 1LL+CPersonau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad [F24,5,7 nac 8]

1.—(1Person—LL+C

(a)sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig;

(b)sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol;

(d)a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth;

(e)sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol;

(f)sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

(g)sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f);

(h)a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn [F3swyddfa] gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd;

(i)sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig;

(j)sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig;

(k)sy’n gludwr diplomyddol neu’n gludwr consylaidd;

(l)sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad [F49(2)(a)] (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 a 8) yw —

(a)bod pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r gynhadledd, y swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar eu awdurdod, yn cadarnhau mewn ysgrifen‘i’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad—

(i)ei bod yn ofynnol [F5i P] ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i weithrediad y genhadaeth, y [F6swyddfa] gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol neu’r gynhadledd, neu’r swyddfa, neu i ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig a

(ii)na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, a

(b)cyn i’r person gyrraedd y Deyrnas Unedig, bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad—

(i)wedi rhoi cadarnhad mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(ii)os yw’r person yn gynrychiolydd i wlad neu diriogaeth dramor, bod y Swyddfa wedi rhoi cadarnhad wedyn mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) bod y person yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7 neu 8.

(3At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963,

(b)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd,

(c)ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithio ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1961,

(d)ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,

(e)ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, gweithiwr consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968(1), ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno,

(f)ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964(2).

(4Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw freinryddid rhag awdurdodaeth neu anhydoredd a roddir i unrhyw berson a ddisgrifir yn is-baragraff (1) o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar wahân i’r Rheoliadau hyn.

2.—(1Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth—LL+C

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig [F7yn y] Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod o gyrraedd y Deyrnas Unedig, neu ,

(b)sy’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond—

(i)ei bod yn ofynnol iddo ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig dros dro, a

(ii)y bydd wedyn yn ymadael er mwyn ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—

(a)mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(3),

(b)ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol,

(c)mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o’r Ddeddf honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

3.—(1Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—LL+C

(a)y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni, F8...

[F9(aa)sydd wedi teithio o wlad neu diriogaeth esempt ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad neu sy’n ei gefnogi, ac nad oes unrhyw bersonau wedi mynd ar y llestr hwnnw neu’r awyren honno, nad yw wedi docio mewn unrhyw borthladd nac wedi glanio mewn unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu]

[F10(b)sydd wedi bod ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi [F11, neu sy’n ei gefnogi, neu gan lu ar ymweliad neu i’w gefnogi] am gyfnod di-dor o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd môr [F12mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] yn ystod y cyfnod hwnnw.]

(2At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(4),

(b)ystyr “llu ar ymweliad” yw llu ar ymweliad o fewn yr ystyr a roddir i “visiting force” yn adran 12(1) o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(5), pan fo’r llu hwnnw’n dod o wlad a restrir o dan adran 1(1)(a) neu a ddynodir o dan adran 1(1)(b) neu 1(2) o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(6), neu sy’n aelod-wlad o Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd.

4.  Swyddog i Lywodraeth dramor y mae’n ofynnol iddo deithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol, neu gontractwr sy’n cefnogi’r dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol hyn yn uniongyrchol—LL+C

(a)pan fo’r swyddog neu’r contractwr yn meddu ar hysbysiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan aelod uwch o’r Llywodraeth dramor sy’n cadarnhau ei bod yn ofynnol iddo ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol yn y Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd ac na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, neu

(b)pan fo lleoliad y swyddog neu’r contractwr yn unol â chytundeb dwyochrog neu amlochrog sefydlog gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi ar weithredu rheolaethau ffin yn y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 8.6.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(2)

(1)

1968 p. 18. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.

(2)

1964 p. 81. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.

(3)

1989 p. 6. Diwygiwyd adran 12 gan baragraff 22 o Atodlen 10 i Ddeddf Lluoedd wrth Gefn 1996 (p. 14), gan baragraff 30 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), gan baragraff 26 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46), gan baragraff 9(3) o Atodlen 13 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (p. 47), gan baragraff 9 o Atodlen 6 i Ddeddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p. 32), gan baragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf Ynni 2004 (p. 20), gan baragraff 58 o Atodlen 4 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, gan baragraff 34 o Atodlen 10, i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi, a chan baragraff 36 o Atodlen 8 i Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22).

(5)

1952 p. 67. Diwygiwyd y diffiniad o “visiting force” yn adran 12(1) gan baragraff 14(1) o Atodlen 15 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (c. 33).

(6)

Mae adran 1(a) wedi ei diwygio nifer o weithiau. Dyma’r gwledydd a restrir: Canada, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, India, Pakistan, Ceylon, Ghana, Malaysia, Gweriniaeth Cyprus, Nigeria, Sierra Leone, Tanganyika, Jamaica, Trinidad a Tobago, Uganda, Kenya, Zanzibar, Malawi, Zambia, Malta, Y Gambia, Guyana, Botswana, Lesotho, Singapore, Barbados, Mauritius, Swaziland, Tonga, Fiji, y Bahamas, Bangladesh, Ynysoedd Solomon, Tuvalu, Dominica, St. Lucia, Kiribati, St. Vincent a’r Grenadines, Papua Guinea Newydd, Gorllewin Samoa a Nauru, Zimbabwe, yr Hebrides Newydd, Belize, Antigua a Barbuda, Saint Christopher a Nevis, Brunei, Maldives, Namibia, Cameroon a Mozambique.