ATODLEN 1Gwybodaeth am Deithiwr
1.
Manylion personol—
(a)
enw llawn,
(b)
rhyw,
(c)
dyddiad geni,
(d)
rhif pasport, neu gyfeirnod F1dogfen deithio (fel y bo’n briodol), y dyddiad dyroddi a’r dyddiad y daw’r pasport neu’r ddogfen i ben a’r awdurdod dyroddi,
(e)
rhif ffôn,
(f)
cyfeiriad cartref,
(g)
cyfeiriad e-bost.
2.
Manylion y daith—
(a)
os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yng Nghymru y mae’r person yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan reoliad 7(3),
(b)
os yn gymwys, cyfeiriad mangre addas yn y Deyrnas Unedig y mae P yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan ddarpariaeth gyfatebol mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon,
(c)
dyddiad y bydd y person yn cyrraedd y cyfeiriad a bennir yn is-baragraff (a) neu (b), neu’r dyddiad y mae’n bwriadu cyrraedd, fel y bo’n briodol,
(d)
y gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef, neu wedi teithio gydag ef, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith,
(e)
F2rhif y sedd,
F3(ea)
rhif eu coets,
(f)
rhif yr hediad F4neu enw’r llestr,
(g)
enw unrhyw grŵp teithio trefnedig y mae’r person yn teithio neu wedi teithio gydag ef,
(h)
y lleoliad yn y Deyrnas Unedig y bydd y person yn ei gyrraedd, neu’r lleoliad yn y Deyrnas Unedig y mae wedi ei gyrraedd,
(i)
y wlad y mae’r person yn teithio drwyddi, neu wedi ymadael ohoni,
F5(ia)
unrhyw wlad neu diriogaeth arall y bydd P ynddi, neu y mae P wedi bod ynddi, yn ystod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r dyddiad y mae P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, neu y mae’n bwriadu cyrraedd y Deyrnas Unedig,
(ib)
pan fo is-baragraff (ia) yn gymwys, y dyddiadau yr oedd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall neu y bydd P yn y wlad neu’r diriogaeth arall,
(j)
y dyddiad a’r amser y bydd y person yn cyrraedd y Deyrnas Unedig neu y mae’n bwriadu ei chyrraedd, fel y bo’n briodol,
(k)
a yw’r person yn teithio drwy’r Deyrnas Unedig fel rhan o siwrnai gysylltu i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac, os felly—
(i)
lleoliad y man y bydd y person yn ymadael â’r Deyrnas Unedig,
(ii)
y wlad sy’n gyrchfan terfynol y person,
(iii)
enw’r gweithredwr y mae’r person yn teithio gydag ef ar y daith sy’n dilyn, neu’r gweithredwr a ddefnyddiodd y person i archebu’r daith sy’n dilyn,
(iv)
F6rhif sedd y daith sy’n dilyn,
(v)
rhif yr hediad F7neu enw’r llestr ar gyfer y daith sy’n dilyn.
F8(vi)
rhif y goets ar gyfer y daith sy’n dilyn.
3.
A yw’r person sy’n darparu gwybodaeth am deithiwr yn gwneud hynny ar ran person arall.
4.
Pan fo’r person yn teithio gyda phlentyn y mae ganddo gyfrifoldeb amdano—
(a)
enw llawn a dyddiad geni’r plentyn hwnnw,
(b)
perthynas y teithiwr â’r plentyn hwnnw.
5.
Enw llawn a rhif ffôn cyswllt brys.
ATODLEN 2F9Personau esempt
RHAN 1Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad F104,5,7 nac 8
1.
(1)
Person—
(a)
sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig;
(b)
sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig;
(c)
sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol;
(d)
a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth;
(e)
sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol;
(f)
sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig F11yn y Deyrnas Unedig y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;
(g)
sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f);
(h)
a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn F12swyddfa gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd;
(i)
sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig;
(j)
sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig;
(k)
sy’n gludwr diplomyddol neu’n gludwr consylaidd;
(l)
sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).
(2)
Yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad F139(2)(a) (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 a 8) yw —
(a)
bod pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r gynhadledd, y swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar eu awdurdod, yn cadarnhau mewn ysgrifen‘i’r F14Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu —
(i)
ei bod yn ofynnol F15i P ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i weithrediad y genhadaeth, y F16swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol neu’r gynhadledd, neu’r swyddfa, neu i ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig a
(ii)
na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, a
(b)
cyn i’r person gyrraedd y Deyrnas Unedig, bod y F14Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu —
(i)
wedi rhoi cadarnhad mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a
(ii)
os yw’r person yn gynrychiolydd i wlad neu diriogaeth dramor, bod y Swyddfa wedi rhoi cadarnhad wedyn mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) bod y person yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7 neu 8.
(3)
At ddibenion y paragraff hwn—
(a)
ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963,
(b)
ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd,
(c)
ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithio ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1961,
(d)
ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,
(e)
(f)
(4)
Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw freinryddid rhag awdurdodaeth neu anhydoredd a roddir i unrhyw berson a ddisgrifir yn is-baragraff (1) o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar wahân i’r Rheoliadau hyn.
2.
(1)
Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth—
(a)
y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig F17yn y Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod o gyrraedd y Deyrnas Unedig, neu ,
(b)
sy’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig ond—
(i)
ei bod yn ofynnol iddo ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig dros dro, a
(ii)
y bydd wedyn yn ymadael er mwyn ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—
(a)
(b)
ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol,
(c)
mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o’r Ddeddf honno.
3.
(1)
Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—
(a)
y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni, F18...
F19(aa)
sydd wedi teithio o wlad neu diriogaeth esempt ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad neu sy’n ei gefnogi, ac nad oes unrhyw bersonau wedi mynd ar y llestr hwnnw neu’r awyren honno, nad yw wedi docio mewn unrhyw borthladd nac wedi glanio mewn unrhyw wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu
F20(b)
sydd wedi bod ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi F21, neu sy’n ei gefnogi, neu gan lu ar ymweliad neu i’w gefnogi am gyfnod di-dor o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd môr F22mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
F23(b)
ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, criw neu adran o luoedd sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.
4.
Swyddog i Lywodraeth dramor y mae’n ofynnol iddo deithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol, neu gontractwr sy’n cefnogi’r dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol hyn yn uniongyrchol—
(a)
pan fo’r swyddog neu’r contractwr yn meddu ar hysbysiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan aelod uwch o’r Llywodraeth dramor sy’n cadarnhau ei bod yn ofynnol iddo ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol yn y Deyrnas Unedig o fewn 14 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd ac na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, neu
(b)
pan fo lleoliad y swyddog neu’r contractwr yn unol â chytundeb dwyochrog neu amlochrog sefydlog gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi ar weithredu rheolaethau ffin yn y Deyrnas Unedig.
RHAN 2Personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad F247 nac 8
5.
Person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, yn pasio trwodd i wlad neu diriogaeth arall heb ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.
6.
(1)
Gweithiwr cludiant ffyrdd neu weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.
(2)
At ddibenion y paragraff hwn—
(a)
mae “gyrrwr” yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn,
(b)
(c)
(i)
gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddiben personol anfasnachol y gyrrwr, neu
(ii)
(d)
ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—
(i)
gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu
(ii)
7.
(1)
(2)
At ddibenion F25is-baragraff (1) a pharagraff 8—
(a)
(b)
8.
F269.
Arolygydd neu syrfëwr llongau, a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu gan lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol fel y diffinnir “relevant British possession” yn adran 313(1) o’r Ddeddf honno, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
10.
11.
12.
(1)
Unrhyw un o’r personau a ganlyn sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith—
(a)
gyrwyr a chriwiau ar wasanaethau gwennol ac ar wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel,
(b)
gweithwyr gweithredol, gweithwyr cynnal a chadw rheilffyrdd, a gweithwyr diogelwch a diogeledd sy’n gweithio ar system y twnnel,
(c)
gweithwyr eraill sy’n cyflawni rolau hanfodol ar gyfer rhedeg, mewn modd diogel neu effeithlon, system y twnnel, gwasanaethau gwennol neu wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel, neu sy’n ymwneud â diogelwch system y twnnel neu unrhyw wasanaethau o’r fath.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
(b)
mae i “system y twnnel” yr ystyr a roddir i “tunnel system” yn adran 1(7) o’r Ddeddf honno.
F2713.
(1)
Unrhyw berson y mae’r Adran berthnasol wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiadau yn is-baragraffau (a), (b) neu (c)—
(a)
gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith plismona hanfodol neu waith llywodraeth hanfodol yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, oni bai am y paragraff hwn, hunanynysu yn unol â rheoliadau 7 neu 8;
(b)
person sy’n dychwelyd o gynnal busnes hanfodol y wladwriaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(c)
person sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig pan fo hynny’n angenrheidiol i hwyluso gweithrediad cenhadaeth ddiplomyddol neu swydd gonsylaidd Ei Mawrhydi, neu benodiad milwrol neu benodiad swyddogol arall ar ran Ei Mawrhydi.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
ystyr “swydd gonsylaidd” yw unrhyw brif gonswl, conswl, is-gonswl neu asiantaeth gonsylaidd,
(b)
mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989,
(c)
ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, waith sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol â’i swyddogaethau statudol, a gwaith sy’n ymwneud â mewnfudo, clefyd y coronafeirws neu unrhyw ymateb argyfwng arall, ond nid yw’n cynnwys gwaith o’r disgrifiad a bennir ym mharagraff 2(1) o Ran 1 o’r Atodlen hon,
(d)
ystyr “plismona hanfodol” yw plismona sydd wedi ei ddynodi felly ar ran y prif swyddog perthnasol neu’r prif gwnstabl perthnasol,
(e)
ystyr “busnes hanfodol y wladwriaeth” yw gweithgaredd a ddynodwyd yn hanfodol i’r Deyrnas Unedig neu Lywodraeth Ei Mawrhydi gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, drafodaethau dwyochrog neu amlochrog â gwladwriaeth arall neu sefydliad rhyngwladol arall ac ymweliadau â gwladwriaeth arall ar ran y Deyrnas Unedig neu Lywodraeth ei Mawrhydi,
(f)
mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.
F2813A.
(1)
Person sy’n dychwelyd o ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a ardystiwyd gan yr Adran berthnasol yn waith sy’n angenrheidiol i hwyluso gwaith llywodraeth hanfodol neu fusnes hanfodol y wladwriaeth.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1) mae i “gwaith llywodraeth hanfodol” a “busnes hanfodol y wladwriaeth” yr un ystyr ag a roddir iddynt ym mharagraff 13.
14.
15.
Person sy’n gyfrifol am hebrwng
- person a geisir i’w estraddodi yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Estraddodi 200333, neu berson a geisir i’w estraddodi yn unol ag unrhyw drefniadau estraddodi eraill.
16.
Cynrychiolydd i unrhyw diriogaeth sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn cymryd i’r ddalfa berson y gorchmynnwyd ei ildio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Estraddodi 2003.
17.
(1)
Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys—
(a)
sy’n gysylltiedig â chyflenwadau dŵr a gwasanaethau carthffosiaeth, a
(b)
a gyflawnir gan ymgymerwr dŵr, ymgymerwr carthffosiaeth, trwyddedai cyflenwi dŵr, trwyddedai carthffosiaeth neu awdurdod lleol, i’r rhain neu ar ran y rhain,
pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys—
(i)
archwilio, cynnal a chadw, atgyweirio, a gweithgareddau amnewid asedau,
(b)
(c)
(d)
(e)
(f)
ystyr “ymgymerwr dŵr” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991..
F3017A.
(1)
Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n gysylltiedig â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ar ran—
(a)
Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)
Cyfoeth Naturiol Cymru;
(c)
awdurdod llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru;
(d)
awdurdod llifogydd lleol arweiniol yn Lloegr.
(2)
Yn is-baragraff (1), mae i “rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol” ac “awdurdod llifogydd lleol arweiniol” yr ystyron a roddir i “flood and coastal erosion risk management” a “lead local flood authority” gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
17B.
Gweithiwr sy’n gwneud gwaith hanfodol neu waith brys sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio sydd ar waith ar hyn o bryd neu a fu gynt ar waith ar ran—
(a)
yr Awdurdod Glo;
(b)
cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(c)
Cyfoeth Naturiol Cymru.
18.
(1)
Gweithiwr sy’n ymwneud â gwaith hanfodol neu waith brys—
(a)
sy’n gysylltiedig—
(i)
â gorsaf gynhyrchu,
(ii)
â chydgysylltydd trydan,
(iii)
(iv)
â gwresogi cymunedol fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014,
(v)
â systemau glanhau awtomataidd ar falast a systemau ailosod traciau ar rwydwaith, neu
(vi)
â chomisiynu, cynnal a chadw a thrwsio peiriannau diwydiannol i’w defnyddio ar rwydwaith, neu
(b)
a gyflawnir gan, ar gyfer, neu ar ran—
(i)
gweithredwr y system genedlaethol,
(ii)
person sydd â thrwydded drawsyrru,
(iii)
person sydd â thrwydded ddosbarthu,
(iv)
(v)
(vi)
person sydd â thrwydded rwydwaith o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993,
pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
(b)
mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys comisiynu, archwilio, cynnal a chadw, atgyweirio, a gweithgareddau amnewid asedau,
(c)
ystyr “gweithredwr y system genedlaethol” yw’r person sy’n gweithredu system drawsyrru genedlaethol Prydain Fawr,
(d)
(e)
ystyr “trwydded drawsyrru” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(b) o Ddeddf Trydan 1989,
(f)
19.
(1)
Person sydd—
(a)
yn bersonél niwclear, ac sy’n hanfodol i weithrediad saff a diogel safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn perthynas ag ef,
(b)
yn ymatebydd argyfwng niwclear,
(c)
yn arolygydd asiantaeth, neu
(d)
yn arolygydd Euratom, ar yr amod ei fod yn cyrraedd y Deyrnas Unedig cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
(b)
ystyr “ymatebydd argyfwng niwclear” yw person sy’n rhoi cymorth i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn ar Gymorth yn Achos Damwain Niwclear neu Argyfwng Radiolegol a wnaed yn Fienna ar 26 Medi 1986, sydd wedi ei hysbysu’n briodol i’r Deyrnas Unedig ac wedi ei dderbyn ganddi, pan fo’r Deyrnas Unedig wedi gofyn am gymorth o dan y Confensiwn hwnnw,
(c)
ystyr “arolygydd Euratom” yw arolygydd a anfonwyd i’r Deyrnas Unedig gan Gomisiwn yr Undeb Ewropeaidd yn unol ag Erthyglau 81 a 82 o Gytuniad Euratom,
(d)
ystyr “personél niwclear” yw—
(i)
gweithiwr a gyflogir i gyflawni gwaith ar safle neu mewn perthynas â safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn perthynas ag ef, neu
(ii)
(e)
20.
21.
(1)
Person sydd—
(a)
yn cyflawni swyddogaeth gritigol ar safle gofod,
(b)
yn rheolwr llongau gofod sy’n gyfrifol am lywio a rheoli cerbyd lansio neu long ofod ar gyfer gweithrediadau enwol, osgoi gwrthdrawiadau neu anomaleddau, neu
(c)
a gyflogir gan berson sy’n gweithredu neu’n cynnal galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod, neu sydd o dan gontract i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
(b)
ystyr “galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod” yw’r synwyryddion, y systemau a’r gwasanaethau dadansoddi y mae eu hangen i roi rhybuddion sy’n sensitif o ran amser ynglŷn â digwyddiadau tywydd yn y gofod, gwrthdrawiadau orbitol, drylliadau orbitol neu ailfynediad gwrthrychau a wnaed gan bobl o’u horbit,
(c)
mae i “llong ofod” yr ystyr a roddir i “spacecraft” yn adran 2(6) o Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018,
(d)
ystyr “rheolwr llong ofod” yw person sy’n gymwys, sydd wedi ei awdurdodi ac sy’n gyfrifol am gynnal gweithrediad saff a diogel llong ofod drwy fonitro statws llong ofod, rhoi gorchmynion llywio neu reoli agweddau eraill ar y llong ofod sy’n dylanwadu ar ei hymddygiad gan gynnwys ei symudiadau yn y gofod.
22.
(1)
Peiriannydd awyrofod arbenigol, neu weithiwr awyrofod arbenigol, pan fo’r peiriannydd neu’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
ystyr “peiriannydd awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau peirianyddol er mwyn sicrhau bod gweithgareddau hedfan yn parhau i weithredu (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer llinellau cynhyrchu, cydrannau hedfan, awyrennau ar y ddaear ac awyrennau newydd),
(b)
23.
(1)
Person sy’n ymwneud â gweithgareddau gweithredu, cynnal a chadw neu ddiogelwch cyfleuster yn y sector olew is sydd â chapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli—
(a)
pan fo’r cyfleuster yn y sector olew is yn ymwneud â gweithgaredd penodedig a gyflawnir yn y Deyrnas Unedig yng nghwrs busnes, ac yn cyfrannu (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) at gyflenwi tanwyddau sy’n seiliedig ar olew crai i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig neu bersonau sy’n rhedeg busnes yn y Deyrnas Unedig, a
(b)
pan fo angen y gweithgareddau er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn parhau i weithredu’n ddiogel,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
mae gan gyfleuster gapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli unrhyw bryd os cafodd ei ddefnyddio yn y flwyddyn galendr flaenorol at ddibenion gweithgareddau’r sector olew is mewn perthynas â mwy na’r nifer hwnnw o dunelli o olew,
(b)
“gweithgareddau penodedig” yw—
(i)
storio olew,
(ii)
trafod olew,
(iii)
cludo olew ar y môr neu ddŵr mewndirol,
(iv)
cludo olew drwy bibellau,
(v)
puro olew neu ei brosesu fel arall.
24.
(1)
Gweithiwr y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu gychwyn y canlynol o fewn F31y cyfnod pan fyddent, oni bai am y paragraff hwn, wedi bod yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu (o fewn ystyr rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn) —
(a)
gweithgareddau ar F32osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef,
(b)
gweithgareddau ar seilwaith y sector petrolewm uwch neu mewn perthynas ag ef,
(c)
gwaith diogelwch critigol ar F33gosodiad alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei gadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei ailddefnyddio neu ffynnon sy’n cael ei datgomisiynu neu ei chadw hyd nes y caiff ei dymchwel neu ei hailddefnyddio , neu
(d)
gweithgareddau i ddarparu gweithwyr, nwyddau, deunyddiau neu gyfarpar neu wasanaethau hanfodol eraill y mae eu hangen i gefnogi gweithrediad diogel y gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c).
F34pan fônt wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)
(b)
25.
26.
Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith neu wasanaethau hanfodol neu frys (gan gynnwys comisiynu, cynnal a chadw ac atgyweirio a gwiriadau diogelwch) i sicrhau y parheir i gynhyrchu, cyflenwi, symud, gweithgynhyrchu, storio neu gadw nwyddau, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu fel arall i ddechrau neu ailddechrau gweithio.
27.
Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith hanfodol neu frys F37(gan gynnwys adeiladu, comisiynu, gosod, cynnal a chadw, atgyweirio a gwiriadau diogelwch) neu i gyflawni rhwymedigaethau contract neu fanylebau gwarantiad mewn cyfleusterau rheoli gwastraff a ddefnyddir ar gyfer rheoli, didoli, trin, adfer, neu waredu gwastraff (gan gynnwys ynni o wastraff), neu mewn cysylltiad â hynny, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
F3828.
(1)
Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunydd a ffurfir o gelloedd neu waed dynol, neu sy’n eu cynnwys, ac sydd i’w defnyddio er mwyn darparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd.
(2)
At ddibenion y paragraff hwn—
mae “gwaed” (“blood”) yn cynnwys cydrannau gwaed;
mae i “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yr ystyr a roddir gan reoliad 10(8).
F3929.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
30.
31.
(1)
Person sydd—
(a)
wedi teithio i’r Deyrnas Unedig—
(i)
(ii)
i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal treial clinigol, neu
(iii)
i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol mewn perthynas â threial clinigol na ellir ei gynnal o bell,
(b)
yn berson cymwys yn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 43 o’r Rheoliadau hynny, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath, neu
(c)
yn noddwr yn yr ystyr a roddir i “sponsor” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny, neu’n cyflawni swyddogaethau neu ddyletswyddau noddwr, treial clinigol ac wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’r treial clinigol.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1), mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.
32.
33.
(1)
Person sydd—
(a)
(b)
yn berson cyfrifol yn yr ystyr a roddir i “responsible person” yn rheoliad 45(1) o’r Rheoliadau hynny, neu
(c)
yn berson â chymwysterau priodol sy’n gyfrifol am wyliadwriaeth ffarmacolegol yn yr ystyr a roddir i “an appropriately qualified person responsible for pharmacovigilance” yn rheoliad 182(2)(a) o’r Rheoliadau hynny,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.
34.
(1)
Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith mewn diwydiannau seilwaith hanfodol gan gynnwys—
(a)
person sy’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol ar seilwaith data y mae ei angen i leihau a datrys diffoddiadau, neu â darparu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi’r gweithgareddau hyn, a
(b)
gweithiwr proffesiynol technoleg gwybodaeth neu delathrebu (gan gynnwys ymgynghorydd technoleg gwybodaeth, dadansoddwr ansawdd, profwr meddalwedd, profwr systemau, a chynllunydd telathrebu), y mae angen ei arbenigedd er mwyn—
(i)
darparu ymateb hanfodol neu frys i fygythiadau a digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth, a
(ii)
sicrhau bod unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth yn parhau i weithredu.
(2)
35.
Person sy’n ymwneud â gwaith brys neu waith hanfodol—
(a)
sy’n angenrheidiol er mwyn parhau i weithredu—
(i)
(ii)
rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru darllediadau’r BBC,
(b)
mewn cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy’n cynnal cyfrinachedd, cyflawnder ac argaeledd y rhwydweithiau a’r gwasanaethau cyfathrebu electronig a rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru’r BBC,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
36.
Person—
(a)
sy’n dilyn gweithgaredd fel person cyflogedig neu hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig ac sy’n preswylio mewn gwlad arall y mae fel arfer yn dychwelyd iddi o leiaf unwaith yr wythnos, neu
(b)
sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig ac sy’n dilyn gweithgaredd fel person cyflogedig neu hunangyflogedig mewn gwlad arall y mae fel arfer yn mynd iddi o leiaf unwaith yr wythnos.
F4137.
Person sy’n ymwneud â gwneud—
(a)
ffilm sy’n ffilm Brydeinig at ddibenion Atodlen 1 i Ddeddf Ffilmiau 1985, neu
(b)
rhaglen deledu sy’n rhaglen Brydeinig at ddibenion Rhan 15A o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009.
F4238.
F43(1)
Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—
(a)
sy’n athletwr elît a fu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,
(b)
a fu’n F44hyfforddi athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn darparu cymorth iddo, neu
(c)
a fu’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn ymwneud â’i rhedeg,
F45(d)
sy’n athletwr elît a fu’n mynychu rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,
(e)
a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît ar raglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi’r athletwr elît hwnnw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,
pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ddychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor F46neu’r rhaglen hyfforddi dramor.
(2)
Yn y paragraff hwn—
(a)
ystyr “athletwr elît” yw person—
(i)
sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,
F47(ii)
sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru,
(iii)
sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny), neu
(iv)
nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), (ii) na (iii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu gynghrair Europa UEFA.
(b)
ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—
(i)
i ennill bywoliaeth, neu
(ii)
i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;
(c)
ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â diwrnod olaf ynysiad y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.
F4839.
Person —
(a)
sy’n ymwneud â gosod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
(b)
y mae ei rôl yn cefnogi yn uniongyrchol y gwaith o osod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.
F49ATODLEN 3Gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin
RHAN 1F50Gwledydd, tiriogaethau a rhannau o wledydd neu diriogaethau
F51...
F52...
Antigua a Barbuda
F53...
Awstralia
F54...
F52...
F55Bahrain
Barbados
F56...
F57Bonaire, Sint Eustatius a Saba
F58Brunei
Caledonia Newydd
F55Cambodia
F55Chile
F55Corfu
F55Creta
F59...
F60Cuba
F61...
F62...
De Korea
F63...
F61...
Dominica
F64...
F55Yr Emiraethau Arabaidd Unedig
F65Estonia
Fiet-nam
Fiji
Y Ffindir
F53...
F57Cymanwlad Ynysoedd Gogledd Mariana
Grenada
F66...
F52...
F67...
F55Gwlad yr Iâ
F61...
F56...
F68Gwlad Thai
F64...
Hong Kong
F69...
F53...
F70...
F57Israel
Japan
F57Dinas Jerwsalem
Kalaallit Nunaat (Greenland)
F55Kos
F55Laos
F65Latfia
F71...
F62....
F72...
Macau
F73Madeira
F58Malaysia
F53...
F74Maldives
Mauritius
F53...
F57Gweriniaeth Namibia
Norwy
F75...
F76...
F69...
F55Qatar
F55Ródhos
F57Gweriniaeth Rwanda
Saint Barthélemy
Saint Kitts a Nevis
Saint Lucia
Saint Pierre a Miquelon
F64 ...
F65Saint Vincent a’r Grenadines
F77...
Seland Newydd
F78...
Seychelles
F60Singapore
F57Sri Lanka
F61...
F66...
F51...
F70...
Taiwan
F57Uruguay
F79...
F56...
F70...
F73ynysoedd Açores
F74Yr Ynysoedd Dedwydd
Ynysoedd Ffaröe
F57Ynysoedd y Wyryf yr Unol Daleithiau
F55Zakynthos
RHAN 2Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig
Anguilla
F80...
Bermuda
F81...
F82Gibraltar
Montserrat
Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha
Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
Ynysoedd Cayman
Ynysoedd De Sandwich a De Georgia
Ynysoedd Falkland
Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno
Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
F83Ynysoedd Turks a Caicos
F84...
F85ATODLEN 4Digwyddiadau chwaraeon penodedig
1.
Digwyddiad lle y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu—
(a)
i gymhwyso, neu
(b)
fel rhan o broses ddethol,
ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad.
2.
Criced F86—
(a)
gemau prawf;
(b)
gemau rhyngwladol undydd;
(c)
gemau T20 rhyngwladol.
F87(d)
Bwrdd Criced Cymru a Lloegr - y T20 Blast;
(e)
Bwrdd Criced Cymru a Lloegr - Cwpan Rachael Heyhoe Flint.
3.
Dartiau—
(a)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Cyfres yr Haf;
(b)
Betfred World Matchplay Darts;
(c)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Uwch-gynghrair Unibet;
(d)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Y Daith Ddatblygu;
(e)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Y Daith Her;
(f)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Cyfres y Menywod;
(g)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Pencampwriaeth y Chwaraewyr;
(h)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol -Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.
(i)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Camp Lawn Ddartiau Boylesports;
(j)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Chwaraewyr Ladbrokes;
(k)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Pencampwriaeth Ddartiau y Byd William Hill;
(l)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Grand Prix y Byd Boylesports.
F88(m)
Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Gemau Cymhwyso Pencampwriaeth y Byd PDPA.
4.
Pêl-droed F89—
(a)
gornestau Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Ewropa UEFA;
(b)
gornestau rhyngwladol.
5.
Golff—
(a)
Pencampwriaeth Meistri Prydain Betfred Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol;
(b)
Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Agored Lloegr;
(c)
Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Lloegr;
(d)
Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig;
(e)
Pencampwriaeth Cymdeithas y Golffwyr Proffesiynol BMW;
(f)
Cylchdaith Golff Ewrop - Y Clasur Celtaidd;
(g)
Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Agored Cymru;
(h)
Cylchdaith Golff Ewrop i Fenywod - Pencampwriaeth Agored yr Alban i Fenywod Aberdeen Standard Investments;
(i)
Cylchdaith Golff Ewrop i Fenywod - Pencampwriaeth Agored Prydain i Fenywod AIG;
(j)
Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Lincs Alfred Dunhill;
(k)
Cylchdaith Golff Ewrop - Pencampwriaeth Agored yr Alban Aberdeen Standard Investments.
F90(l)
Cylchdaith Golff Ewrop – Her Iwerddon.
F91(m)
Twrnamaint Golff Agored Iwerddon Dubai Duty Free (Cylchdaith Golff Ewrop);
(n)
Twrnamaint Golff Agored Gogledd Iwerddon (Cylchdaith Her Ewrop a gefnogir gan yr R&A).
F92(o)
Taith Ewrop - Pencampwriaeth yr Alban.
6.
Rasio ceffylau—
(a)
Gŵyl Rasio Ceffylau Gorffennaf Moët & Chandon;
(b)
Penwythnos Diemwnt Rasio Ceffylau y Brenin Siôr QIPCO;
(c)
Gŵyl Rasio Ceffylau Goodwood Qatar;
(d)
Gŵyl Rasio Ceffylau Ebor Swydd Efrog.
(e)
Gŵyl St Leger;
(f)
Gŵyl Pencampwyr y Dyfodol Dubai;
(g)
Diwrnod Pencampwyr Prydain QIPCO;
(h)
Cyfarfod The Showcase, Cheltenham.
F93(i)
Cyfarfod mis Tachwedd, Cheltenham;
(j)
Churchill Stakes;
(k)
Lancashire Chase;
(l)
Cyfarfod Cwpan Ladbrokes;
(m)
Tingle Creek Chase;
(n)
Becher Chase;
(o)
Y Cyfarfod Rhyngwladol, Cheltenham;
(p)
Long Walk Hurdle;
(q)
Cyfarfod King George VI;
(r)
Ras Fawr Genedlaethol Cymru Coral;
(s)
Cyfarfod Dydd Calan, Cheltenham;
(t)
Classic Chase;
(u)
Clarence House Chase;
(v)
Festival Trials Day, Cheltenham.
7.
Rasio moduron—
(a)
Grand Prix Prydain Fformiwla Un Pirelli;
(b)
Grand Prix Dathlu 70 Mlynedd Fformiwla Un Emirates.
F94(c)
Motorsport UK - Pencampwriaethau Ceir Gwyllt Prydain;
(d)
Motorsport UK - Pencampwriaethau Rali Groes Prydain;
(e)
Pencampwriaethau Ceir Teithio Prydain;
(f)
Pencampwriaethau Rali Groes Prydain;
(g)
Pencampwriaeth GT Prydain a Phencampwriaeth BRDC F3;
(h)
Wythnos Gyflymder Goodwood;
(i)
Gŵyl Formula Ford Brands Hatch.
F95(j)
Motorsport UK – Cwpan Walter Hayes;
(k)
Pencampwriaeth Rasio Tryciau BTRA;
(l)
Her Porsche Prydain Fawr.
F968.
Rygbi’r Gynghrair—
(a)
Gornestau Super League Betfred;
(b)
Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair.
9.
Rygbi’r Undeb F97—
(a)
gornestau rhyngwladol;
(b)
gornestau Clybiau Rygbi Proffesiynol Ewrop;
(c)
gornestau Guinness PRO14.
F9810.
Snwcer—
(a)
Pencampwriaeth Snwcer y Byd Betfred;
(b)
Taith Snwcer y Byd - Meistri Ewrop;
(c)
Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored Lloegr;
(d)
Taith Snwcer y Byd - Shoot Out;
(e)
Twrnamaint Snwcer Pencampwr y Pencampwyr Matchroom.
F99(f)
Matchroom - Twrnamaint Snwcer Cynghrair y Bencampwriaeth.
F100(g)
Taith Snwcer y Byd - Rowndiau Rhagbrofol Pencampwriaeth Meistri yr Almaen;
(h)
Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored Gogledd Iwerddon;
(i)
Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaethau’r DU;
(j)
Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored yr Alban;
(k)
Taith Snwcer y Byd - Grand Prix y Byd.
F10111.
Athletau — Marathon Llundain.
12.
Hoci maes — gornestau Cynghrair FIH Pro.
13.
Tennis — Rowndiau Terfynol Cylchdaith ATP.
F10214.
Bocsio—
(a)
Matchroom Fight Camp - Gornest Ryngwladol Pwysau Trwm;
(b)
Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Trwm y Byd Cyngor Bocsio’r Byd;
(c)
Matchroom Fight Camp - Teitl Pwysau Ysgafn y Byd y Menywod Sefydliad Bocsio’r BydF103;
F104(d)
Matchroom Fight Camp - Gornestau Pencampwriaeth Bocsio.
F105(e)
Hennessy Sports – Teitl Pencampwriaeth Pwysau Plu Uwch yr Undeb Bocsio Ewropeaidd.
F106(f)
Teitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Uwch Ewropeaidd Sefydliad Bocsio’r Byd;
(g)
Teitl Pencampwriaeth Pwysau Ysgafn Uwch y Byd.
F107(h)
Pencampwriaeth Bocsio Ryngwladol - Queensberry Promotions.
F108(i)
Hennessy Sports – Gemau Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol;
(j)
Gemau Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol – MTK Promotions.
15.
Sboncen -
F109(a)
Twrnamaint Sboncen Agored Manceinion 2020.
F110(b)
Pencampwriaethau Sboncen Agored Prydain 2020 Allam.
F11116.
Bowlio Deg - Cwpan Weber Matchroom BetVictor.
17.
Pŵl -
F112(a)
Twrnamaint Pŵl Cwpan Mosconi Partypoker Matchroom.
F113(b)
Pencampwriaeth Pŵl y Byd Matchroom.
F11418.
Gymnasteg - Gornest 4-Ffordd Dan 18 Gymnasteg Prydain.
F11519.
Crefft Ymladd a Chrefft Ymladd Cymysg—
(a)
Cyfres “The Trilogy” Cage Warriors;
(b)
Noson Ymladd Taekwondo Prydain Fawr I – Digwyddiad Rhyngwladol Taekwondo, Para Taekwondo a Karate;
(c)
Noson Ymladd Taekwondo Prydain Fawr II – Digwyddiad Rhyngwladol Taekwondo, Para Taekwondo a Karate.
F11620.
Pêl-rwyd - England Roses v Jamaica Sunshine Girls - Cyfres Pêl-rwyd Ryngwladol Vitality.
F11721.
Badminton—
(a)
Pencampwriaethau Badminton Tîm Cymysg Ewrop – Digwyddiad Cymhwyso Grŵp 1;
(b)
Pencampwriaethau Badminton Agored Lloegr Gyfan Yonex.
22.
Cwrlo – Uwch-gyfres Cwrlo Ewrop.
23.
Jiwdo – Cystadleuaeth Wahodd Gaeedig Hŷn Prydain.
24.
Ping Pong –– Pencampwriaeth Ping Pong y Byd Matchroom.