Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
12 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Mehefin 2020
Yn dod i rym
9 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 77(1) a (2) a 90(3) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008(1), a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
2008 p. 27. Yn rhinwedd adran 77(3)(b) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol at ddiben gwneud rheoliadau o dan Atodlen 6 i’r Ddeddf honno. Mae diwygiadau i adran 77 ac Atodlen 6 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.