2020 Rhif 594 (Cy. 135)

Yr Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19901.

Enwi, cychwyn a dod i ben1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Deddfiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Gorffennaf 2020.

Deddfiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19902

1

Mae’r deddfiadau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990—

a

adrannau 33, 34 a 47 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 19902;

b

adrannau 171G, 179, 187, 187A, 216 a 331 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903;

c

adran 23 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 19904;

d

rheoliad 65 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 20055;

e

rheoliad 56 o Reoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 20096;

f

rhannau 5, 8, a 9 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 20117; a

g

rheoliad 38 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 20168.

2

Ni chaiff person fod yn euog o drosedd o dan y deddfiadau hyn oherwydd unrhyw beth o angenrheidrwydd a wneir neu nas gwneir er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 57 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Hannah BlythynY Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi deddfiadau amrywiol at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”).

O dan adran 57(1) o Ddeddf 1990, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo deiliad unrhyw drwydded amgylcheddol sy’n awdurdodi gweithrediad gwastraff i dderbyn a chadw, neu dderbyn a thrin neu waredu, gwastraff mewn mannau penodedig o dan delerau penodedig.

O dan adran 57(2) o Ddeddf 1990, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw berson sy’n cadw gwastraff ar dir i ddanfon y gwastraff i berson penodedig o dan delerau penodedig, gyda’r nod bod y gwastraff yn cael ei drin neu ei waredu gan y person hwnnw.

Mae adran 57(6) o Ddeddf 1990 yn caniatáu i ddeddfiadau gael eu rhagnodi gan Reoliadau i sicrhau na chaiff person fod yn euog o drosedd o dan y deddfiadau hynny oherwydd unrhyw beth a wneir er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddyd o dan adran 57.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.