NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r perygl i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2). Mae adran 45B o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaethau at ddiben (ymhlith pethau eraill) atal perygl i iechyd y cyhoedd a ddaw o lestrau, awyrennau, trenau neu gludiant arall yn cyrraedd unrhyw fan.

Mae’r Rheoliadau yn gosod gofyniad ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol sy’n ymwneud â’r feirws i deithwyr.

Mae rheoliad 3 yn gosod gofynion ar weithredwyr ar adeg archebu taith a chofrestru ar gyfer taith. Pan fo’r archebu neu’r cofrestru yn digwydd ar lein, mae’r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr i roi ar gael i deithwyr ddolen i’r tudalennau perthnasol ar wefan gov.uk a gwefan llyw.cymru. Pan fo’r archebu neu’r cofrestru yn digwydd dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, mae’n ofynnol i weithredwyr gyfeirio’r teithiwr at y tudalennau hyn.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu’r datganiad gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn yr Atodlen i deithwyr tra bônt ar y llestr neu’r awyren.

Mae rheoliad 5 yn darparu eithriad i’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd yn rheoliadau 3 a 4; nid yw’n gymwys pan fo’r person sy’n cael yr wybodaeth yn annhebygol o allu ei deall.

Mae rheoliad 6 yn creu trosedd ddiannod o dorri’r gofyniad i ddarparu’r wybodaeth iechyd y cyhoedd yn rheoliadau 3 a 4. Mae’r drosedd i’w chosbi drwy ddirwy.

Mae rheoliad 6(2) yn darparu amddiffyniad o “esgus rhesymol” i weithredwr a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 4 (torri gofyniad i ddarparu gwybodaeth i deithwyr tra bônt ar y llestr neu’r awyren).

Mae rheoliad 7 yn darparu y caniateir gosod cosbau penodedig ar bersonau yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn yn lle eu herlyn. Y gosb yw £4000.

Rhaid adolygu’r angen am y Rheoliadau hyn a’u cymesuredd bob 21 o ddiwrnodau (rheoliad 9).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.