- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
3.—(1) Rhaid i weithredwr unrhyw wasanaeth teithwyr rhyngwladol ddarparu’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2) fel rhan o unrhyw gyfleuster a reolir gan y gweithredwr y caiff person ei ddefnyddio—
(a)i archebu taith ar y gwasanaeth, neu
(b)i gofrestru i deithio ar y gwasanaeth.
[F1(2) Yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—
(a)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—
(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,
(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen), a
(iii)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk;
(b)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—
(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,
(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii)dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a
(iv)dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;
(c)yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith neu gofrestru ar gyfer taith dros y ffôn neu wyneb yn wyneb—
(i)pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen;
(ii)pan ddarperir yr wybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a’r gofyniad i ynysu;
(d)yn unrhyw un o’r achosion uchod, cais i drosglwyddo’r wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c) (yn ôl y digwydd) i unrhyw berson—
(i)yr archebir taith ar ei ran, neu
(ii)y cofrestrir ar gyfer taith ar ei ran.]
(3) Pan na fo’r gweithredwr yn rheoli’r broses archebu neu gofrestru yn uniongyrchol, rhaid i’r gweithredwr gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y person sy’n rheoli’r broses yn cydymffurfio â pharagraff (1) ar ran y gweithredwr.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 3(2) wedi ei amnewid (4.11.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1118), rhlau. 1(2), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)
3A.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan archebir taith, o leiaf 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i wasanaeth teithwyr rhyngwladol ymadael, ar gyfer teithiwr (“P”) ar y gwasanaeth hwnnw.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i weithredwr y gwasanaeth sicrhau, rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth ymadael, bod yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (4) (“yr wybodaeth ofynnol”) wedi ei darparu i P.
(3) Rhaid i’r wybodaeth ofynnol gael ei darparu drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, drwy’r e-bost neu ar lafar.
(4) Yr wybodaeth ofynnol a grybwyllir ym mharagraff (2) yw—
(a)pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—
(i)yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(ii)yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
(iii)yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a
(iv)os yw’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn un y dyrennir arno rif sedd i P, yn cynghori P i ddarparu rhif y sedd fel rhan o’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth;
(b)pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—
(i)yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,
(ii)dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii)dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, a
(iv)dolen i https://llyw.cymru/eithriadau-rhag-hunanynysu-coronafeirws-covid-19-html;
(c)pan ddarperir yr wybodaeth ar lafar, yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen.
(5) Pan fo person arall (“A”) yn archebu taith ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol ar ran teithiwr arall (pa un a yw A hefyd yn deithiwr ar y gwasanaeth hwnnw ai peidio), rhaid trin y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â’r rheoliad hwn fel gofyniad y cydymffurfiwyd ag ef, o ran yr amser a nodir ym mharagraff (1), os darparwyd yr wybodaeth ofynnol i A yn y dull sy’n ofynnol rhwng 24 a 48 o oriau cyn yr amser y disgwylir i’r gwasanaeth hwnnw ymadael, ynghyd â chais ysgrifenedig i A ddarparu’r wybodaeth honno i’r teithiwr.]
Diwygiadau Testunol
4.—(1) Rhaid i weithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sicrhau y darperir pob teithiwr ar y llestr neu’r awyren â’r datganiad a nodir yn [F3Rhan 2 o’r Atodlen] yn ystod y daith i’r porthladd yng Nghymru.
(2) Rhaid darparu’r datganiad F4... yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn rhl. 4(1) wedi eu hamnewid (4.11.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1118), rhlau. 1(2), 2(5)
F4Gair yn rhl. 4(2) wedi ei hepgor (C.) (10.7.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 10(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 4 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)
5. Nid oes dim yn rheoliad 3 [F6, 3A] neu 4 yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth i berson sydd, yn rhinwedd oedran neu alluedd meddyliol, yn annhebygol o allu ei deall.
Diwygiadau Testunol
F5Gair yn rhl. 5 heading wedi ei fewnosod (4.11.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1118), rhlau. 1(2), 2(6)(a)
F6Gair yn rhl. 5 wedi ei fewnosod (4.11.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1118), rhlau. 1(2), 2(6)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 5 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: