RHAN 3LL+CTroseddau, cosbau ac erlyniadau
TroseddauLL+C
6.—(1) Mae person sy’n torri gofyniad yn rheoliad 3(1) neu (3) [F1, rheoliad 3A(2)], neu reoliad 4 yn cyflawni trosedd.
(2) Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni’r drosedd o dorri’r gofyniad yn rheoliad 4 i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad.
(3) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan baragraff (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6(1) wedi eu mewnosod (4.11.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1118), rhlau. 1(2), 2(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)
Hysbysiadau cosb benodedigLL+C
7.—(1) Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw berson (“P”) y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).
(2) Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sy’n cynnig i P y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)Gweinidogion Cymru, neu
(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(3) Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu P o’r drosedd os yw P yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(4) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,
(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd,
(c)pennu swm y gosb benodedig,
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(5) Rhaid i swm y gosb benodedig a bennir o dan baragraff (4)(c) fod yn £4,000.
(6) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a
(b)sy’n datgan i’r taliad am y gosb benodedig ddod i law, neu na ddaeth i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 7 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)
ErlyniadauLL+C
8. Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ac eithrio gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu berson awdurdodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 8 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)