RHAN 4Amrywiol
Adolygu’r gofynionI19
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o’r gofynion a osodir gan Ran 2—
a
erbyn 29 Mehefin 2020,
b
o leiaf unwaith yn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw, ac
c
o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.
2
Rhaid i adolygiad a gynhelir o dan baragraff (1) ystyried a yw’r gofynion yn angenrheidiol ac yn gymesur fel modd o atal perygl i’r cyhoedd sy’n deillio o ledaeniad y coronafeirws.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020I210
1
Diwygir Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20205 fel a ganlyn.
2
Yn y testun Cymraeg yn unig—
a
yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “gwybodaeth am deithiwr (“passenger information”)” rhodder—
“ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1;”;
b
yn rheoliad 5(3)(b), yn lle “ddiweddaru ar ran P,” rhodder “diweddaru”;
c
yn rheoliad 7—
i
ym mharagraff (1)(b)(ii), hepgorer y coma ar ôl “sydd”;
ii
ym mharagraff (4)(a) hepgorer y gair “bai”;
iii
yn mharagraff (5)(a) ar ôl “yng Nghymru” mewnosoder “sy’n addas i breswylio ynddi”;
d
yn rheoliad 8—
i
ym mharagraff (2)(a)(i) yn lle “7(3));” rhodder “7(3); a”;
ii
ym mharagraff (3)(b)(i) yn lle “(bod y tu allan i fangre am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol)” rhodder “(gadael y fangre dros dro)”;
e
yn rheoliad 14(4) yn lle “rreoliadau yma” rhodder “Rheoliadau hyn”;
f
yn rheoliad 16(2) yn lle “Reoliadau” rhodder “Rheoliadau”;
g
yn rheoliad 17(10)—
i
ar ôl ““ddeddfwriaeth diogelu data”” mewnosoder “a “data personol””;
ii
yn lle “ac mae i “data personol” yr ystyr a roddir i” rhodder “a”;
h
yn Atodlen 1, yn is-baragraff (d), yn lle “ei ddogfen” rhodder “dogfen”;
i
yn Atodlen 2—
i
ym mharagraff 1 yn is-baragraffau (1)(h) a (2)(a)(i) yn lle “swydd” rhodder “swyddfa”;
ii
ym mharagraff 1(2)(a)(i) yn lle “i’r person” rhodder “i P”;
iii
ym mharagraff 2(1)(a) yn lle “y tu allan i’r” rhodder “yn y”;
iv
yn lle paragraff 3(1)(b) rhodder—
“sydd wedi bod ar lestr a weithredir gan Wasanaeth Llyngesol ei Mawrhydi am gyfnod di-dor o 14 o ddiwrnodau o leiaf yn union cyn iddo gyrraedd ac nad yw’r llestr hwnnw wedi codi unrhyw bersonau nac wedi glanio mewn unrhyw borthladd môr y tu allan i’r ardal deithio gyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw.”;
v
ym mharagraff 7(2) yn y geiriau agoriadol, yn lle “y paragraff hwn” rhodder “is-baragraff (1)”;
vi
ym mharagraff 13(1)(b) yn y ddau le y mae’n ymddangos, ar ôl “plismona” mewnosoder “hanfodol”.
3
Yn Atodlen 2—
a
yn lle’r pennawd i’r Atodlen rhodder—
Personau esempt
b
yn y pennawd i Ran 1 o’r Atodlen, yn lle “3 a rheoliad 4” rhodder “4,5,7 nac 8”;
c
yn y pennawd i Ran 2 o’r Atodlen, yn lle “4”rhodder “7 nac 8”.
Y Rheoliadau hyn yn dod i benI311
1
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y 7fed diwrnod o Fehefin 2021.
2
Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.