4.—(1) Rhaid i weithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sicrhau y darperir pob teithiwr ar y llestr neu’r awyren â’r datganiad a nodir yn yr Atodlen yn ystod y daith i’r porthladd yng Nghymru.
(2) Rhaid darparu’r datganiad ar lafar yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.