Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 606 (Cy. 140)

Landlord A Thenant, Cymru

Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020

Gwnaed

17 Mehefin 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

19 Mehefin 2020

Yn dod i rym

30 Mehefin 2020

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2020.

Estyn y cyfnod perthnasol sy’n darparu gwarchodaeth rhag fforffediad etc.

2.  At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period” fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn dod i ben, o ran Cymru, ar 30 Medi 2020.

Ken Skates

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru

17 Mehefin 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 82 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn sicrhau na chaniateir gorfodi ailfynediad neu fforffediad am beidio â thalu rhent mewn perthynas â’r holl fathau o denantiaid masnachol yn ystod y cyfnod perthnasol (“relevant period”). Mae adran 82(12) o’r Ddeddf yn diffinio’r “relevant period” fel cyfnod sy’n dechrau ar 26 Mawrth 2020, ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin 2020 neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir mewn rheoliadau a wneir gan yr awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru. Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod perthnasol hyd 30 Medi 2020. O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, mae’r moratoriwm a ddarperir gan adran 82 o’r Ddeddf wedi ei estyn hyd 30 Medi 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.