NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr llawnamser sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2020/2021.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd benthyciwr dros fenthyciad at gostau byw o dan amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei gael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.