- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) Yn Rheoliadau mis Ebrill 2020—
(a)yn rheoliad 19, yn lle “rheoliad 22” rhodder “rheoliadau 22 a 26, a pharagraffau 1 a 2(c) o’r Atodlen,”;
(b)ar ôl rheoliad 25 (fel y’i mewnosodir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn) mewnosoder—
“26. Mae’r Atodlen yn cynnwys addasiadau i ddeddfiadau amrywiol, sy’n gysylltiedig â’r Rhan hon.”
(2) Ar ddiwedd Rheoliadau mis Ebrill 2020 mewnosoder—
Rheoliad 26
1. Yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(1), mae adran 41 i’w darllen mewn perthynas ag awdurdod lleol y mae’r adran honno’n gymwys iddo (yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad) fel pe bai, yn is-adran (1)(b)—
(a)“signed or authenticated in accordance” wedi ei roi yn lle “signed in accordance”;
(b)“or authenticated” wedi ei fewnosod ar ôl “when the minutes were signed”.
2. Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(2) i’w darllen mewn perthynas ag un o gyfarfodydd pwyllgor safonau (o fewn ystyr y Rheoliadau hynny), a gynhelir cyn diwedd 30 Ebrill 2021, fel pe bai—
(a)yn rheoliad 26—
(i)ym mharagraff (1), is-baragraff (ch) wedi ei hepgor;
(ii)ym mharagraff (2A), yn is-baragraff (a), “a 100C” wedi ei roi yn lle “i 100D”(3);
(iii)paragraff (4) wedi ei hepgor;
(b)yn rheoliad 27, y canlynol wedi ei roi yn lle paragraffau (1) i (3)—
“(1A) Pan fo—
(a)yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad neu ddogfen arall sy’n gysylltiedig ag un o gyfarfodydd ei bwyllgor safonau ar ei wefan yn rhinwedd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, a
(b)gwefan gan un neu ragor o’r cynghorau cymuned a leolir yn ardal yr awdurdod lleol,
caiff yr awdurdod lleol, os gwêl yn dda, ddarparu bod yr hysbysiad yn cael ei gyhoeddi neu’r ddogfen arall yn cael ei chyhoeddi ar wefannau’r cynghorau cymuned hynny (yn ogystal ag ar ei wefan ei hun).”;
(c)yn rheoliad 28, y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—
“(1A) Ond caniateir i gofnodion trafodion pwyllgor safonau sy’n digwydd ar ôl 21 Gorffennaf 2020 (sef y dyddiad y daeth Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020 i rym) a chyn 1 Mai 2021 gael eu llunio mewn dogfen yn lle hynny, a rhaid i’r ddogfen honno gael ei dilysu gan gadeirydd y pwyllgor.”
3. Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i’w darllen mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod awdurdod lleol a gynhelir, cyn diwedd 30 Ebrill 2021, yn unol ag adran 24 neu (yn ôl y digwydd) 25 o’r Ddeddf honno fel pe bai—
(a)yn adran 24—
(i)yn is-adran (5), ym mharagraff (a), “published under that provision” wedi ei roi yn lle “supplied under that section (supply of agenda etc. to newspapers)”;
(ii)yn is-adran (5), ym mharagraff (b)(i), “published” wedi ei roi yn lle “open to inspection”;
(iii)yn is-adran (5), is-baragraff (ii) o baragraff (b), a’r gair “or” sy’n dod o’i flaen, wedi eu hepgor;
(iv)yn is-adran (7), “100C(2)(d) and (6)(d) of that Act” wedi ei roi yn lle “100C(1)(d) of that Act (public access to copies of reports for 6 years after meeting)”;
(b)yn adran 26—
(i)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (6)—
“(6) But if section 100C of the Local Government Act 1972 applies in relation to the meeting, the approved summary must indicate the documents in relation to the meeting which have been published electronically under that section.”;
(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (6)—
“(6A) Subsection (6B) applies in relation to a meeting which is not open to the public other than by virtue of—
(a)section 1(2) of the Public Bodies (Admission to Meetings) Act 1960(4), or
(b)section 100A(2) or (4) of the Local Government Act 1972.
(6B) The reference in subsection (5) to a decision made at a meeting while the public were excluded includes a reference to a decision made while, in the proper officer’s opinion, it is likely the meeting would not have been open to the public by virtue of—
(a)section 1(2) of the Public Bodies (Admission to Meetings) Act 1960, had section 1(1) of that Act applied;
(b)section 100A(2) or (4) of the Local Government Act 1972, had section 100A(1) of that Act applied.””
Mewnosodwyd paragraff (2A) gan reoliad 2(16) o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85 (Cy. 39)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: